"Dwi'n bwriadu mynd adref a siarad gyda'r teulu cyn gwneud unrhyw benderfyniad," meddai'r Cymro ar ôl iddo ymestyn ei record broffesiynol di lychwin. Roedd y gŵr o Drecelyn wedi datgan ei fwriad i ymddeol ar ôl ei ornest yn erbyn Jones Jr. Mae dau o'u gyn-wrthwynebwyr - Bernard Hopkins a Mikkel Kessler - eisoes wedi dweud eu bod nhw'n awyddus i herio'r Cymro unwaith yn rhagor. Ond mae'r cyn-ddyfarnwr Wynford Jones oedd yn aelod o dîm sylwebu BBC Radio yn Madison Square Garden yn annog Calzaghe i ymddeol. "Y peth pwysig o safbwynt Joe i'w cael ymadael a'r sgwâr gyda'r record berffaith. "Fe fydd temtasiwn, fe fydd arian mawr yn cael ei gynnig ond y peth pwysig i Joe nawr i'w gwrthod yr arian mawr. "Hoffwn i feddwl ein bod ni wedi gweld Joe ar ei orau am y tro olaf."
 |