BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Bocsio

BBC Homepage
BBC Cymru

»

Chwaraeon

Pêl-droed
Abertawe
Caerdydd
Casnewydd
Wrecsam
Uwchgynghrair Cymru
Pêl-droed Cyffredinol
Rhyngwladol

Rygbi
Rhyngwladol
Rhanbarthol

Athletau
Beicio
Bocsio
Criced
Cyffredinol
Golff
Moduro
Olympaidd
Rasio Ceffylau
Rygbi XIII
Snwcer
Tenis

Canlyniadau

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Diweddarwyd: 09 Tachwedd 08
Calzaghe yn chwalu Jones Jr

Mae record dilychwin Joe Calzaghe yn parhau ar ôl iddo chwalu Roy Jones Jr mewn gornest waedlyd yn Madison Square Garden yn oriau man fore Sul.

Joe Calzaghe a Roy Jones Jr

Am yr ail waith yn olynol fe loriwyd Calzaghe yn y rownd gyntaf wrth i law dde Jones ffrwydro yn wyneb ei wrthynebydd.

Ond fe gododd y Calzaghe yn ôl ar ei draed ac ar ddiwedd yr ornest roedd ymhell ar y blaen ym marn pob un o'r beirniaid.

Fe ddioddefodd Jones doriad cas uwchben ei lygad dde yn y seithfed rownd wrth i Calzaghe fwynhau meistrolaeth lwyr dros y gŵr sydd yn cael ei gyfri yn un o gewri'r sgwâr focsio.

John Ifans a Wynford Jones yn canu clodydd y Cymro

Mari Morgan yn wreiddiol o'r Ffwrnais ger Llanelli gafodd y fraint o arwain y miloedd o Gymru yn y dorf o dros 14,000 i gyd-ganu Hen Wlad Fy Nhadau cyn yr ornest yn un o leoliadau mwyaf eiconig y gamp.

Er iddo ddechrau'n bwyllog gan lanio ergydion cyson gyda'i law dde, lloriwyd y Cymro gan law dde Jones gyda 39 eiliad o'r rownd yn weddill gan orfodi Calzaghe i dderbyn cyfrif o wyth a bu'n rhaid iddo ddioddef eiliadau pryderus cyn cael dianc i ddiogelwch ei gornel.

Cafwyd ymateb egniol gan Calzaghe yn yr ail rownd, ond er ei holl ymdrechion ni thrafferthwyd ei wrthwynebydd yn ormodol, ac roedd y dde ar draws yn peri problemau i'r gŵr o Drecelyn wrth i'r Americanwr ymestyn ei fantais o drwch blewyn.

Gwelwyd perfformiad llawer mwy awdurdodol gan y Cymro wrth i iddo ennill y drydedd a'r bedwaredd rownd ac fe ddechreuodd gwatwar ymdrechion ei wrthwynebydd.

Gyda Jones yn cael ei gornelu yn gyson, cynyddu gwnaeth hyder Calzaghe ac er bod llaw dde Jones yn fygythiad parhaol roedd y momentwm yn troi i gyfeiriad y Cymro wrth i'r ornest gyrraedd hanner ford.

Ac yntau o dan bwysau cynyddol fe ddioddefodd Jones doriad cas uwchben ei lygad dde wrth i'r Cymro ddechrau rheoli a dim ond ei dueddiad i edrych yn orhyderus oedd yn mynd i'w atal rhag hawlio ei 46 buddugoliaeth o'r bron.

Drwy gydol gweddill yr ornest roedd y gwaed yn pistyllio o lygad Jones ac roedd Calzaghe yn ddidrugaredd wrth iddo hawlio buddugoliaeth feistrolgar o 118-109.

Ar ddiwedd yr ornest dywedodd Calzaghe, 36, nad oedd o eto wedi gwneud unrhyw benderfyniad ynglŷn â'i ymddeoliad.


chwaraeon



About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy