Mae'r Cymro wedi ennill ei 45 gornest broffesiynol ac fe fu'n bencampwyr byd pwysau uwch ganol am 11 mlynedd. Os yw'n curo Jones yn Madison Square Garden fe fydd Calzaghe yn efelychu ei arwr Rocky Marciano, pencampwyr pwysau trwm y byd rhwng 1952 a 1956. "Rhaid i mi ddangos yr un awch ag y gwnes i ar gyfer fy ngornest gyntaf oherwydd bod cymaint yn y fantol," meddai Calzaghe. "'Dwi eisiau creu hanes. 'Dwi eisiau bod yn un o'r ychydig ymladdwyr bocsio sydd heb golli. "'Dwi'n gwybod mai hon fydd fy ngornest olaf ond allai ddim meddwl am hynny. "Mae'r son am ymddeol yn beth peryg oherwydd mae gen i waith i'w wneud. "Mae 'na bethau mwy pwysig nag ymladd ond byddai gorffen fy ngyrfa heb golli yn goron ar y cyfan."
 |