Ychwanegodd Calzaghe goron yr IBF i bencampwriaeth WBO pwysau canol y byd wedi iddo drechu'r Americanwr ym Manceinion. Er y bu'n bencampwr ers deg mlynedd, dim ond wedi'r noson honno mae Calzaghe yn teimlo iddo dderbyn y sylw y mae'n haeddu yn enwedig yn yr Unol Daleithiau. "Mi oeddwn i'n meddwl bod America a'r gornestau mawr wedi fy mhasio heibio bedair neu bum mlynedd yn ôl," meddai Calzaghe. "Yr oeddwn yn cael trafferth llenwi'r Ganolfan Iâ yng Nghaerdydd ac yn wynebu bois nad oeddwn yn gallu ynganu eu henwau heb son am wybod pwy oedda nhw. "Ond fe newidiodd popeth i mi wedi i mi chwalu Lacy. "Fe wnes i ymladd ddwywaith yn Stadiwm y Mileniwm, yn Vegas yn erbyn Hopkins ac yna 'dwi'n gorffen yn Madison Square Gardens yn erbyn Roy Jones Jr, sydd yn cael ei ystyried fel un o'r goreuon. "Mae herio bocsiwr chwedlonol mewn lleoliad chwedlonol yn ddiweddglo teilwng i mi."
 |