Mae Joe Calzaghe wedi awgrymu sawl tro mai ei ornest is-drwm yn erbyn Roy Jones Jr yn Efrog Newydd ar Dachwedd 8 fydd ei olaf. Ond gyda Bernard Hopkins and Mikkel Kessler yn awyddus i herio'r Cymro unwaith yn rhagor, mae Enzo Calzaghe wedi awgrymu y gall ei fab barhau gyda'i yrfa focsio. "Unwaith y bydd yr ornest hon allan o'r ffordd fe fyddwn yn eistedd lawr ac ystyried," meddai Enzo Calzaghe. "Wnâi ddim dweud yn sicr mai hon fydd yr ornest olaf, ond be' am i ni symud ymlaen i'r ornest nesaf a gweld be fydd yn digwydd." Bydd Calzaghe a'i garfan yn hedfan i'r Unol Daleithiau ddydd Mercher er mwyn paratoi ar gyfer yr ornest yn Madison Square Garden. "Mae Joe mewn cyflwr da ac wedi bod yn ymarfer ers 13 neu 14 wythnos," meddai Enzo mewn cyfweliad gyda rhaglen Sport Wales y BBC. "Bu'n freuddwyd gan Joe [i ymladd yn Madison Square Garden], mae'n le chwedlonol."
 |