Roedd y bencampwraig Olympaidd ar y blaen gyda Judith Arndt o'r Almaen am fwyafrif ail hanner y ras, ac yn mwynhau mantais o 11 eiliad gyda 3km or 127.2km i fynd. Ond diflannodd y fantais yna yn araf bach, a chyda 200m i fynd ras rhwng tri oedd hi am y llinell derfyn. A Giorgia Bronzini o'r Eidal aeth a hi, gyda Marianne Vos o'r Iseldiroedd yn cipio'r fedal arian a Emma Johansson o Sweden yn cael yr efydd.
 |