| Bydd Thomas yn rhan o dîm Prydain ar gyfer Pencampwriaeth rasys lôn y Byd yn Awstralia sydd yn cael ei chynnal wythnos cyn Gemau'r Gymanwlad. Serch hynny mae Thomas, sydd yn cystadlu yn y Tour de France gyda Team Sky ar hyn o bryd, wedi ei gynnwys yn nhîm Cymru ar gyfer y ras lôn a'r ras yn erbyn y cloc. "'Dwi'n gwybod y byddai Geraint wedi hoffi targedu'r cystadlaethau trac yn Delhi," meddai rheolwr tîm beicio Cymru, Gareth Sheppard. "Ond yn anffodus nid yw trefniadau Pencampwriaeth y Byd yn caniatáu hynny." "Ond ry' ni wedi gweld ei berfformiadau ar y lon eleni ac yn hyderus y gall Geraint berfformio'n dda yn Delhi." Yn Melbourne bedair blynedd yn ôl fe sicrhaodd Thomas fedal efydd yn y ras pwyntiau dros 40km. Enillodd fedal aur gyda thîm Prydain yn y ras gwrso yn y Gemau Olympaidd yn Beijing yn 2008. Mae Thomas a Nicole Cooke wedi eu cynnwys yn nhîm beicio Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad. Gydag 17 aelod dyma fydd y tîm beicio cryfa' erioed i gynrychioli Cymru yn y Gemau.
 |