Gorffennodd y Gymraes yn gryf wrth wibio i'r llinell o flaen Lizzie Armitstead ac Emma Pooley ar ddiwedd y ras 80 milltir o am gylch cyffiniau'r Fenni. Cafodd Pooley ei dyrchafu i'r ail safle ar ôl i'r swyddogion ddiystyru Armitstead gan ei bod wedi ennill yn y categori o dan 23. Does dim hawl i gystadleuydd gael ei chysidro mewn dau gategori. Mae Cooke, sy'n 26 mlwydd oed, bellach o fewn dwy fuddugoliaeth i record Beryl Burton o 12 tlws Prydeinig ar y lôn.
 |