bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Edrych yn ôl ar Llewod '71

31 Mai 2005

gan Dot Rees
BBC Chwaraeon



Taith y Llewod i Seland Newydd ym 1971 yw, mae'n bosib, y daith rygbi enwocaf erioed.

Chwe Sais, chwe Gwyddel, pum Albanwr ac 13 Cymro - gyda saith o'r rhain yn chware dros Gymry Llundain - o dan hyfforddiant athrylithgar Carwyn James yn maeddu'r Crysau Duon mewn cyfres brawf ar eu tomen eu hunain.

Dyma'r unig dîm Llewod erioed i gyflawni'r gamp.

Barry John Mae'r llyfrau hanes yn tanlinellu pa mor anodd yw hi i ennill yn Seland Newydd, gyda'r Llewod yn ennill chwe gêm Brawf yn unig gan golli 26 rhwng 1904 ac 1993.

Tîm Carwyn James, o dan gapteiniaeth John Dawes yn 1971 yw'r unig dîm i gipio cyfres ar dir y Crysau Duon.

" Ni oedd y cynta i fod yn llwyddiannus yna ... falle allwch chi gymharu fe gyda dringo Everest ... mae pob un yn cofio'r un cyntaf i ddringo Everest" meddai Gareth Edwards.

A dyna, efallai, y gymhariaeth orau o'r her o chwarae yn Seland Newydd.

Roedd naws Cymreig iawn i'r garfan adawodd Llundain ar siwrne 58 awr i Awstralia.

Gyda Carwyn wrth y llyw, John Dawes yn gapten roedd JPR, Gerald Davies, Arthur Lewis, Ray Chico Hopkins, Barry John, Gareth Edwards, Mervyn Davies, Geoff Evans, Derek Quinnell, Mike Roberts, Delme Thomas a John Taylor yn y garfan.

Roedd dwy gêm yn Awstralia wedi'r daith felltith a chrafu buddugoliaeth yn erbyn New South Wales a cholli yn erbyn Queensland oedd hanes y Llewod.

Dywedodd hyfforddwr Queensland, Des Connor, wedi'r gem mai dyna'r tim gwaethaf erioed iddo weld yn cynrychioli'r Llewod.

Buan iawn y gorfodwyd i Des ail-feddwl wedi i'r Llewod gyrredd gwlad y 'Cwmwl Hir Gwyn'.

Cafwyd pedair buddugoliaeth o'r bron yn erbyn timau taleithiol Seland Newydd, ond wrth drechu tîm cryf Wellington, dechreuodd pobl gredu y gallai'r daith fod yn un hanesyddol.

Profodd Canterbury yn wrthwynebwyr anoddach yn Christchurch gyda'r tîm cartref yn benderfynol o anafu'r ymwelwyr.

''Honna oedd y gem 'waetha 'wi di chware ynddi yn y mywyd achos gollon ni dri o'n blaenwyr o'r tîm cynta yn y gem hynny, odd hi'n warthus i weld a gweud y gwir" meddai Delme Thomas.

Ond er gwaetha'r anafiadau profodd y Llewod yn drech na Canterbury gyda buddugoliaeth o 14-3.

Yna chwalwyd Marlborough a Nelson Bay cyn ennill y Prawf cyntaf yn erbyn y Crysau Duon o 9-3 yn Dunedin.

Daeth tair buddugoliaeth arall yn erbyn timau rhanbarthol ond tarodd y Crysau Duon yn ôl yn yr ail Brawf yn Christchurch wrth drechu'r Llewod 22-12.

Codwyd ysbryd y Llewod unwaith eto â pherfformiadau da yn erbyn timau taleithiol gyda Gerald Davies yn casglu pedwar cais yn y gêm yn erbyn Hawke's Bay.

Roedd y Llewod yn dîm o sêr, ond wedi'r trydydd Prawf a'r fuddugoliaeth 13-3 cafodd un chwareuwr ei ddyrchafu'n uwch na'r gweddil.

Roedd ei chware yn wefreiddiol a'i bartneriaeth â Gareth Edwards yn allweddol i'r llwyddaint.

Nid ar chware bach mae cefnogwyr brwd Seland Newydd yn coroni un o'r gwrthwynebwyr yn frenin y byd rygbi ond roedd gwlad y Kiwi wedi dechrau addoli'r Brenin, Barry John.

Yna ystod y Prawf olaf ar Eden Park roedd gôl adlam JPR Williams yn holl bwysig wrth i'r Llewod sicrhau gêm gyfartal 14-14, a sicrhau eu bod yn ennill y gyfres 2-1.

Torrwyd tir newydd ar daith y Llewod yn '71 ond nid oedd yr un aelod o'r garfan yn barod am y croeso rhyfeddol oedd yn eu disgwyl yn ôl ym Mhrydain.

Cafwyd golygfeydd nas gwelwyd ers dyddiau'r Beatles wrth i'r tîm lanio yn ôl yn Heathrow a roedd pentrefi a threfi cyfan yn cyfarch eu harwyr newydd.

Mae gan Llewod Sir Clive Woodward dasg anodd iawn o'u blaenau os ydynt am ddod yn agos at gyflawni'r hyn wnaeth Llewod Carwyn James.


Bydd cyfle i glywed Llewod '71 ar BBC Radio Cymru am 1230 BST Sadwrn, 11 Mehefin





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy