Henson yn gobeithio dychwelyd

17 Medi 2005
Mae Gavin Henson wedi dweud wrth BBC Cymru y bydd yn ôl yn chwarae rygbi erbyn canol mis nesaf. Mae'r chwaraewr 23 oed yn gwella wedi llawdriniaeth ar anaf sydd wedi ei drafferthu ers tro. Y gobaith yw y bydd yn holliach erbyn pedair gêm prawf Cymru yn ystod mis Tachwedd. "Mae'r symptomau wedi diflannu felly mae hynny'n newyddion da," meddai Henson. "Mae pethau yn edrych yn well a gobeithio y bydd yn ôl erbyn ganol yr Hydref.
Roedd pryderon y byddai llawdriniaeth wedi arwain at Henson yn methu hyd ar chwe mis, gan gynnwys Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Ond wedi dychwelyd i Gymru yn dilyn llawdriniaeth llwyddiannus yn Yr Almaen, gall Henson ymddangos i'r Gweilch yn y Cwpan Heineken fydd yn dechrau diwedd fis Hydref.
Mae'n amheuaeth fodd bynnag os fydd y canolwr yn barod ar gyfer y gêm brawf yn erbyn Seland Newydd yn Stadiwm y Mileniwm ar 5 Tachwedd.
"Rydym yn falch iawn fod llawdriniaeth Gavin wedi bod yn llwyddiant," meddai rheolwr y Gweilch, Derwyn Jones.