Y Gororau 16-6 Y Gweilch
18 Medi 2005
Llwyddodd Reivers y Gororau i sicrhau eu buddugoliaeth cyntaf o'r tymor wrth iddynt drechu'r Gweilch yn Netherdale ddydd Sul. Roedd cic gosb gan Shaun Connor wedi rhoi'r ymwelwyr ar y blaen yn gynnar yn y gêm. Ond roedd y Reivers yn rheoli'r gêm erbyn yr egwyl diolch i dri chic gosb gan Charlie Hore a chais gan Nikki Walker, â throswyd gan Hore. Daeth Y Gweilch yn ôl wedi'r egwyl ond dim ond cic gosb arall gan Connor gafodd y Cymry er eu hymdrechion. Reivers y Gororau: MacRae, Moffat, MacDougall, Law, Walker, Hore, Cusiter, Thomson, Scott, Douglas, Blair, Palepoi, Rennick, Brown, Miller.
Eilyddion: Ford am Scott (60), Stewart am Palepoi (69), Sititi am Rennick (49), Gray am Brown (63).
Eilyddion eraill: Parr, McKearchar, Kibble.
Y Gweilch: Terblanche, Mustoe, Parker, A. Bishop, Brew, Connor, Spice, D. Jones, B. Williams, A. Jones, Newman, Evans, Wyn Jones, Thomas, Pugh.
Eilyddion: Vaughton am Brew (56), James am A. Jones (66), Bateman am Evans (56), Beech am Wyn Jones (56).
Eilyddion eraill: Bennett, Wells, M. Jones.
Dyfarnwr: G Clancy (Iwerddon)