Thomas eisiau wynebu'r Crysau Duon

24 Awst 2005
Mae capten y Llewod, Gareth Thomas, yn credu y bydd ei glwb Toulouse yn ei ganiatau i gynrychioli Cymru yn erbyn Seland Newydd ar 5 Tachwedd. Y mae'r gêm yng Nghaerdydd wedi ei threfnu y tu allan i'r calendr rhyngwladol allai olygu problemau ynglyn â ryddhau chwaraewyr sydd gyda clybiau Ffrainc a Lloegr. Credai Thomas y gellir cyfaddawdu a fyddai'n ei alluogi i wynebu Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia ond yn methu'r gêm yn erbyn Fiji er mwyn chwarae dros Toulouse. "Dwi'n siwr fod Toulouse yn gwybod gymaint yr wyf eisiau chwarae ac fe fydda nhw yn deg i mi," meddai Thomas. "Tydw i ddim wedi trafod y mater gyda'r clwb eto, ond mae'n siwr y bydd hi yr un fath a'r llyned pan gefais fy ryddhau ar gyfer gemau yn erbyn timau'r Tair Gwlad ond yn colli'r gêm yn erbyn Siapan.
"Yr wyf eisiau chwarae yn y gêm yn erbyn Seland Newydd gymaint ag unrhyw un yng Nghymru, ond yn y pendraw does wnelo'r hyn sy'n digwydd rhwng y clwb a'r undeb ddim i wneud gyda mi."
Er iddo gael haf prysur gyda'r Llewod yn Seland Newydd - gan chwarae'r dair gêm brawf a dod yn gapten wedi anaf Brian O'Driscoll - mae Thomas yn ysu i gynyrchioli ei wlad unwaith eto.