Chwaraewyr ar fai - Jenkins
 17 Awst 2005 Mae Cyfarwyddwr Rygbi'r Scarlets, Gareth Jenkins, wedi beio'r chwaraewyr am golled y Llewod yn y gyfres brawf yn Seland Newydd. Roedd Jenkins yn un o gynorthwywyr hyfforddi Syr Clive Woodward ar y daith, gyda'r Llewod yn colli'r gyfres 3-0. "Bu bron i'w weledigaeth a'i gynllun weithio. Yr hyn nad oedd gennym oedd y safon oedd ei angen," meddai Jenkins. "Mae Woodward yn cael ei farnu fel hyfforddwr a fethodd. Efallai nad oedd safon y chwaraewyr ddim ar gael yn y Chwe Gwlad. "Yr oeddwn yn gyfforddus gyda'r dewsiadau ar y daith - ond ni wnaeth sawl chwaraewr berfformio fel yr oeddym wedi disgwyl."

|