bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Seland Newydd 38-19 Y Llewod

09 Gorffennaf 2005

Llwyddodd Seland Newydd i gwblhau chwalfa'r Llewod â buddugoliaeth yn y Prawf olaf yn Auckland.

Sgoriodd y Crysau Duon bum cais wrth i Conrad Smith, Ali Williams, Tana Umaga (2) a Rico Gear groesi a chiciodd Luke McAlister 13 pwynt.

Roedd y Llewod ar ei hôl 24-12 ar yr egwyl er eu perfformiad grymus yn y sgrym ac er bod Umaga wedi ymweld â'r gell callio.

Ond sgoriodd y capten ei ail gais yn yr ail hanner a sgoriodd Gear yn yr eiliadau olaf wedi cais gysur Lewis Moody.

Gorffennodd tîm Sir Clive Woodward eu taith â saith buddugoliaeth mewn 11 gêm ond collwyd y gemau â'r Maori yn ogystal âr tair gêm Brawf.

Cafwyd colled 21-3 yn Christchurch a chwalfa 48-18 yn Wellington wrth i'r Crysau Duon sgorio 107 pwynt yn y gyfres, record yn erbyn Y Llewod.

Nid yw Seland Newydd wedi colli ar Barc Eden ers i Ffrainc eu trechu yno ym 1994.

Wedi munud o dawelwch i gofio am y ffrwydriadau yn Llundain, Y Llewod gafodd y pwyntiau cyntaf wrth i Stephen Jones drosi cic gosb.

Ac fe ddylent fod wedi cipio cais wedi saith munud wrth i Josh Lewsey garlamu i lawr yr asgell chwith, a llwyddodd Gethin Jenkins i sefydlu safle gwych ond methodd y clo, Donncha O'Callaghan, â defnyddio'r dynion oedd tu allan iddo.

Cafodd y Llewod driphwynt hawdd wrth i Umaga gael ei ddanfon i'r gell callio am orwedd ar y bêl.

Ond tarodd y Crysau Duon yn ôl yn syth wrth i'r wythwr, Sione Lauaki, fwydo Smith i guro Geordan Murphy a Mark Cueto a charlamu o dan y pyst.

A thra'n parhau i chwarae â 14 dyn, cipiodd y Crysau Duon gais arall wrth i'r mewnwr, Dwayne Peel, fethu dal ei afael ar gic isel McAlister a neidiodd y clo, Williams, ar y bêl rhydd.

Trosodd Jones am driphwynt arall i'r Llewod ond cafodd y dyfarnwr, Jonathan Kaplan, lond bol ar gwyno'r Llewod rhai munudau'n ddiweddarach gan symud cic gosb yn ei blaen 10 llath oedd yn caniatâu'r Crysau Duon i'w drosi.

Trosodd y Cymro, Jones, gic gosb arall wedi 23 munud cyn iddi ddechrau bwrw hen wragedd â ffyn ym Mharc Eden.

Wrth i'r Llewod geisio lledu'r chwarae, manteisiodd y tîm cartref a phan fethodd Lewsey â chasglu cic McAlister dros yr amddiffyn, sgoriodd Umaga gais gwych o dan y pyst yn dilyn gwaith da gan y maswr a'r mewnwr i lawr yr ochr dde.

Wedi'r egwyl croesodd Umaga am y pedwerydd cais ond wedi cyfnod hir yn hanner y Crysau Duon, daeth cais gysur i'r Llewod wrth i Moody cael ei yrru drosodd yn dilyn sgarmes.

Ond wrth i'r gêm gyrraedd ei therfyn llwyddodd Gear i sgorio'r cas olaf un wrth gicio drwodd a disgyn ar y bêl.


Seland Newydd: Muliaina; Gear, Smith, Umaga (capt), Sivivatu; McAlister, Kelleher; Lauaki, So'oialo, Collins; Williams, Jack; Somerville, Mealamu, Woodcock.

Eilyddion: Witcombe, Johnstone, Ryan, Holah, Marshall, Evans, Howlett.

Y Llewod: Murphy; Cueto, Greenwood, Thomas (capt), Lewsey; Jones, Peel; Jenkins, Byrne, White; O'Callaghan, O'Connell; Easterby, Moody, Jones.

Eilyddion: Bulloch, Rowntree, Corry, Williams, Dawson, O'Gara, Horgan.





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy