Seland Newydd 48-18 Y Llewod

02 Gorffennaf 2005
Chwalwyd y Llewod yn Stadiwm Westpac, Wellington wrth i'r Crysau Duon sicrhau record o sgôr â phum cais, gyda chwaraewr gorau'r gêm, Daniel Carter, yn casglu 43 pwynt. Roedd Gareth Thomas wedi sicrhau dechrau delfrydol i'r Llewod â chais cynnar ond tarodd y Crysau Duon yn ôl â cheisiau gan Tana Umaga a Sitiveni Sivivatu er mwyn mynd i fewn ar yr egwyl 21-13 ar y blaen. Yn yr ail hanner, aeth Seland Newydd ymhellach ar y blaen gyda'r maswr, Carter yn ychwanegu cais, trosiad a dwy gic gosb. Er i Simon Easterby groesi a Gais i'r ymwelwyr, ychwanegodd Carter a Richie McCaw gais arall yr un wrth i'r Crysau Duon sicrhau buddugoliaeth gyfforddus. Wythnos yn ôl cafodd capten Y Llewod, Brian O'Driscoll, ei gludo o'r maes wedi munud yn unig ag anaf fyddai'n ei gadw allan o weddill y daith. Ond wythnos yma cafwyd dechrau perffaith i'r Llewod wrth i'r capten newydd, Gareth Thomas, groesi am y sgôr agoriadol.
Casglodd y Cymro'r bêl gan Johnny Wilkinson cyn ochrgamu trwy amddiffyn y Crysau Duon a thirio'r bêl o dan y pyst.
Llwyddodd Wilkinson i drosi'r cais a roedd Y Llewod 7-0 ar y blaen wedi dau funud o'r gêm.
O fewn munud roedd Dwayne Peel wedi casglu'r gêm ar ochr y ryc a gwibio dros y llinell hanner cyn cael ei ddal, ond cadwodd yr ymwelwyr y pwysau gan sicrhau cic gosb, ond tarodd Wilkinson y postyn.
Casglodd Y Llewod y bêl mewn safle gwych i ymosod ond neidiodd Paul O'Connell i fewn i'r ryc gan ildio cic gosb hurt a chaniatau'r Crysau Duon i glirio'r bêl.
Cafodd y tîm cartref eu pwyntiau cyntaf â dau gic gosb gan Carter cyn i'r maswr greu cais gwych.
Collodd Thomas y bêl a bachodd Umaga y bêl a bwydodd Carter i garlamu 50 llath gan anwybyddu tacl Gavin Henson cyn i'r maswr roi'r bêl yn ôl i Umaga.
Croesodd y capten ger y pyst a throsodd Carter i roi'r tîm cartref ar y blaen wedi 18 munud.
Wedi Wilkinson a Carter gyfnewid cicau cosb, methodd maswr Y Llewod a chais am gôl adlam cyn casglu ei ail gic gosb ond aeth Seland newydd ymhellach ar y blaen â chais hyfryd.
Er i'r Llewod amddiffyn yn dda o sgrym ar eu llinell pum metr, lledwyd y bêl ar draws y cae a chroesodd Sitiveni Sivivatu yn y gornel.
Roedd y Crysau Duon ar y blaen 21-13 ar yr egwyl ac o fewn pum munud i'r ail hanner roedd Carter wedi chwalu gobeithion y Llewod.
Trosodd gic gosb cyn casglu cais unigol campus yn y gornel a llwyddodd i drosi o'r asgell.
Gwrthododd Y Llewod ag ildio a phenderfynodd y capten, Thomas, i fynd am yr ystlys yn hytrach na chicio ciciau cosb, ond wedi 10 munud o bwyso llwyddodd Y Crysau Duon i glirio eu llinell heb ildio pwynt.
Bu rhaid i Wilkinson adael y maes wedi awr ag anaf i'w goes, ond roedd maswr y tîm cartref yn prysur sicrhau ei le yn oriel anfarwolion Seland Newydd.
Ychwanegodd gic gosb i dorri'r record am y nifer o bwyntiau gan un chwaraewr yn erbyn y Llewod, ac er i Simon Easterby sgorio ail gais i'r ymwelwyr, llwyddodd Carter i ddawnsio trwy'r Llewod am ei ail gais a brwydrodd McCaw drosodd wedi Carter gael ei ddal i fyny fodfeddi'n fyr o'r llinell.
Trosodd y maswr y ddwy gais i sicrhau fod y Crysau Duon yn cipio' gyfres gydag un gêm yn weddill.
Seland Newydd: Muliaina; Gear, Umaga, Mauger, Sivivatu; Carter, Kelleher; Woodcock, Mealamu, Somerville; Jack, A Williams; Collins, McCaw, So'oialo.
Eilyddion: Witcombe, Gibbes, Lauaki, Marshall, Nonu, MacDonald, Johnstone.
Y Llewod: Lewsey; Robinson, Thomas, Henson, S Williams; Wilkinson, Peel; Jenkins, Thompson, White; O'Connell, O'Callaghan, Easterby, Moody, R Jones.
Eilyddion: Byrne, Rowntree, Corry, M Williams, Dawson, S Jones, Horgan.
Dyfarnwr: Andrew Cole (Awstralia)