bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Manawatu 6-109 Y Llewod

28 Mehefin 2005

Cafwyd hwb anferthol i'r Llewod wrth iddynt sicrhau buddugoliaeth anferthol yn erbyn Manuatu yn Palmerston North ddydd Mawrth.

Mewn gêm gwbwl unochrog, croesodd y Llewod am 17 cais yn erbyn y tîm rhan amser.

Casglodd y Cymro, Shane Williams, bum cais gan roi pwysau ar Sir Clive Woodward i'w ddewis ar gyfer yr ail Brawf.

Llwyddodd Manawatu i sgorio dau gic gosb yn yr hanner cyntaf gan Jonathan Hargreaves.

Dau funud yn unig oedd ei angen ar Williams i gipio ei gais cyntaf wrth iddo wibio drosodd yn y gornel.

Ychwanegodd ail 20 munud yn ddiweddarach wedi Chris Cusiter gymryd cic gosb cyflym, a chwblhaodd ei hat-trick cyn yr egwyl â chic gosb cyflym ei hun.

Roedd crasfa yn anorfod yn erbyn y tîm rhan amser gyda Martin Corry, Geordan Murphy a Jason Robinson hefyd yn croesi am gais yr un.

Roedd cais Robinson yn arbennig am ei fod y tro cyntaf iddo sgorio ers mis Ionawr a dim ond ei ail gais o 2005.

Cafwyd llu o newidiadau ar yr egwyl a bydd cryn ddyfalu os oedd chwaraewyr yn cael eu gorffwys ar gyfer y Prawf ddydd Sadwrn, gyda Donncha O'Callaghan a Cusiter ymysg y chwaraewyr ddaeth i ffwrdd.

Ond ychwanegwyd at geisiau'r ymwelwyr gan yr eilyddion gyda Charlie Hodgson a Smith yn croesi cyn i Williams gasglu ei bedwerydd cais o fewn wyth munud i'r ail hanner.

Wedi Simon Shaw redeg hyd y maes i roi Neil Back drwodd am gais casglodd Gordon D'Arcy a Ronan O'Gara gais yr un.

Ac wrth i'r Llewod anelu am y 110-pwynt croesodd O'Gara am ail gais, casglodd Mark Cueto ddwy a Gareth Cooper un.

Ond, yn haeddiannol, Williams aeth â'r Llewod heibio'r 100 gyda'i bumed cais o'r gêm.


Manawatu: Frank Bryant; Bevan Gray, Jason Campbell, Matt Oldridge, Johnny Leota; Graham Smith, Jonathan Hargreaves; Sam Moore, Nathan Kemp (capt), Keni Barrett, Tim Faleafaga, Paul Rodgers, Hayden Triggs, Josh Bradnock, Bryan Matenga.
Eilyddion: Simon Easton, Isaac Cook, Paula Maisiri, Chris Moke, David Palu, Nick Buckley, Ben Trew.

Llewod: Geordan Murphy; Jason Robinson, Ollie Smith, Gordon D'Arcy, Shane Williams; Charlie Hodgson, Chris Cusiter; Andy Sheridan, Gordon Bulloch (capt), John Hayes, Simon Shaw, Donncha O'Callaghan, Martin Corry, Martyn Williams, Michael Owen.
Eilyddion: Andy Titterrell, Matt Stevens, Brent Cockbain, Neil Back, Gareth Cooper, Ronan O'Gara, Mark Cueto.

Dyfarnwr: Lyndon Bray.





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy