Seland Newydd 21-3 Llewod

25 Mehefin 2005
Dioddefodd y Llewod golled trwm yn y prawf cyntaf yn erbyn Seland Newydd, gyda'u capten Brian O'Driscoll yn dioddef anaf yn ystod y funud agoriadol. Cafodd y Gwyddel ei gario oddi ar y maes wedi ond munud o'r gêm ar ôl datgymalu ei ysgwydd a bydd yn colli gweddill y daith. Yn yr hanner cyntaf llwyddodd maswr Seland Newydd Daniel Carter gyda dwy gic gosb cyn i Ali Williams groesi am gais yn dilyn tafliad gwael gan y Llewod. Wedi'r egwyl sgoriodd Sitiveni Sivivatu gais gwych ac fe ddaeth unig bwyntiau'r Llewod drwy gic gosb gan Jonny Wilkinson. Ar noson ofnadwy yn Christchurch, derbyniodd y Llewod glec fawr pan fu'n rhaid i O'Driscoll adael y maes yn dilyn tacl Keven Mealamu.
Er colli eu capten, roedd ymateb y Llewod yn dda am gyfnod gan greu problemau yn amddiffyn y crysau duon.
Ond uchafbwynt prin fu hynny, gyda'r tîm cartref yn feistri ar bob agwedd o'r gêm wedi hynny.
Blaenwyr Seland Newydd oedd yn ennill y frwydr yn y rhan honno o'r maes, ac roedd eu hamddiffyn yn sydyn i rwystro cefnwyr y Llewod.

Roedd leiniau'r Llewod yn wael iawn ac fe dreuliodd Paul O'Connell gyfnod yn y gell cosbi ar ôl rhwystro cais.
Erbyn hynny roedd Daniel Carter wedi llwyddo gyda dwy gic gosb ac roedd ei dîm ar y blaen o 6-0.
Bu bron iawn i gic gan Cartref i'r gornel ganfod yr asgellwr Sitiveni Sivivatu ond cyfunodd Jason Robinson a Josh Lewsey i'w rwystro.
Derbyniodd y Llewod glec arall wedi 18 munud pan fu'n rhaid i'r blaen asgellwr Richard Hill adael y maes, gyda'r Cymro Ryan Jones yn dod ymlaen yn ei le.
Wrth i Seland Newydd bwyso, un o'r pethau cyntaf bu'n rhaid i Jones wneud oedd rhwystro Leon MacDonald.
Ond yna'r clo Ali Williams yn casglu tafliad y bachwr Shane Byrne o'r lein, ac fe gwblhaodd Williams y dasg hawdd o groesi am gais wedi 25 munud.
Parhaodd Seland Newydd i bwyso ar bob cyfle, tra methodd Jonny Wilkinson sicrhau pwyntiau cyntaf yr ymwelwyr gyda thair munud o'r hanner yn weddill.
Pum munud wedi'r egwyl sgoriodd Seland Newydd eu hail gais o'r gêm. Sivivatu yn derbyn pâs hir gan y capten Tana Umaga ac yn croesi am gais gwych.
Daeth unig bwyntiau'r Llewod wedi 56 munud gyda chic gosb gan Wilkinson, a bydd gan Sir Clive Woodward a'i dîm waith caled o'u blaenau cyn yr ail brawf yn Wellington y Sadwrn nesaf.
Seland Newydd: MacDonald; Howlett, Umaga (capten), Mauger, Sivivatu; Carter, Justin Marshall; Woodcock, Mealamu, Hayman; Jack, Williams; Collins, McCaw, So'oialo.
Eilyddion: Witcombe, Somerville, Gibbes, Lauaki, Kelleher, Muliaina, Gear. Llewod: Robinson; Lewsey, O'Driscoll (capten), Wilkinson, Thomas; S Jones, Peel; Jenkins, Byrne, White, O'Connell, Kay; Hill, Back, Corry.
Eilyddion:Thompson, Rowntree, Grewcock, R Jones, Dawson, Greenwood, Horgan.
Dyfarnwr: Joel Jutge (Ffrainc)