Southland 16-26 Y Llewod

21 Mehefin 2005
Sgoriodd y canolwr, Gavin Henson, ddau gais wrth i'r Llewod ei chael yn anodd i drechu Southland mewn gêm llawn camgymeriadau yn Invercargill. Rhoddwyd Y Llewod 10-0 ar y blaen wrth i'r Cymro groesi wedi saith munud yn dilyn cic gosb cynnar gan Ronan O'Gara. Ond wedi dechrau'n addawol cafwyd llu o gamgymeriadau gan yr ymwelwyr a daeth y tîm cartref yn gyfartal â chais gan Hale T-Pole. Ychwanegodd Henson ail gais wedi 54 munud a chafwyd tri chic gosb gan O'Gara i selio'r fuddugoliaeth. Roedd yn berfformiad siomedig gan Y Llewod, ond ymatebodd Henson yn dda er fod ei ymddangosiad yn Invercargill yn golygu ei fod yn colli'r Prawf cyntaf ddydd Sadwrn, a casglodd y wobr am fod yn chwaraewr y gêm.Ond ni fydd unrhyw un arall yn y tîm wedi creu argraff ar dîm rheoli'r Llewod ar gyfer yr ail a thrydydd Prawf.
Er fod y Llewod wedi cychwyn yn dda, Southland gafodd y cyfle cyntaf i roi pwyntiau ar y sgorfwrdd ond tarodd y maswr, Richard Apanui, ei gic gosb heibio'r postyn.
Wedi Ronan O'Gara drosi cic gosb wedi saith munud, llwyddodd Henson i ochrgamu'n hyfryd cyn defnyddio'i gryfder i groesi am gais.
Gwrthododd Southland ag ildio a throsodd Apanui gic gosb ar ôl 17 munud wedi Moody cael ei gosbi am gamsefyll.
Cafodd yr ymwelwyr ddigon o feddiant ond roedd eu chwarae sâl yn golygu nad oedd y fuddugoliaeth mor gyfforddus ag y dylai fod.
Cafodd O'Gara gyfle i roi'r Llewod ymhellach ar y blaen wedi Daniel Quate cael ei gosbi am dacl uchel ar Andy Titterrell ond aeth ei gic o'r llinnell hanner heibio'r postyn.
Roedd yn alwg fod Y Llewod wedi cael pryd o dafod yn ystod yr egwyl ond o fewn munud i'r ail hanner llwyddodd Hale T-Pole i frwydro drosodd am gais.
Troswyd y cais gan Apanui i ddod â'r sgôr yn gyfartal 10-10 a roedd y tîm cartref yn llygadu eu buddugoliaeth gyntaf dros Y Llewod ers 1966.
Ymatebodd tîm rheoli'r Llewod gan yrru eilyddion i'r maes a llwyddodd Henson i ddangos ei ddoniau a brwydro drosodd am ei ail gais wedi 54 munud.
Troswyd y cais gan O'Gara ac ychwanegodd y Gwyddel gic gosb i roi'r Llewod 10 pwynt ar y blaen, ond daeth Southland yn ôl unwaith eto.
Cafodd Henson ei gosbi am ddefnyddio ei ysgwydd mewn tacl a throsodd Apanui'r gic gosb.
Cyfnewidiodd O'Gara ac Apanui giciau cosb cyn i O'Gara drosi cic gosb hwyr i selio'r fuddugoliaeth, ond bydd y perfformiadau siomedig yn gur prn i dîm rheoli'r Llewod.
Southland: Wilson; Harrison, Milne, Muliaina, Lotawa; Apanui, Cowan; Miller, T-Pole, Tamariki; Quate, Macdonald; Dempsey, Rutledge, Dermody (capt).
Eilyddion: Murch, Hall, Logan, Wright, Clarke, Petre, Te Whare.
Y Llewod: Murphy; Cueto, Smith, Henson, Hickie; O'Gara, Cooper; Stevens, Titterell, Hayes; Shaw, O'Callaghan; Moody, Williams, Owen (capt).
Eilyddion: Bulloch, Sheridan, Easterby, Cusiter, Hodgson, Shanklin, D'Arcy