bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Otago 19-30 Y Llewod

18 Mehefin 2005

Llwyddodd y Llewod i sicrhau hwb i'w hyder â buddugoliaeth yn Dunedin wythnos cyn y Prawf cyntaf.

Roedd cais gan Will Greenwood wedi dod â'r ymwelwyr yn gyfartal 13-13 ar yr egwyl wedi cais Danny Lee roi'r tîm cartref ar y blaen.

Daeth cais gan Ryan Jones, oedd yn disgleirio yn ei gêm gyntaf ers ymuno â'r daith, i roi'r Llewod ar y blaen cyn i drydydd cais gan Shane Williams selio'r fuddugoliaeth.

Ychwanegodd Charlie Hodgson 15 pwynt, wrth i Nick Evans gicio gweddill pwyntiau Otago.

Llwyddodd Jones i ddenu sylw'r dewiswyr a chodi ei obeithion o sicrhau lle yn y tîm Prawf â pherfformiad penigamp gyda blaenasgellwr Iwerddon a'r Scarlets, Simon Easterby, hefyd yn profi ei fod â'r gallu i frwydro am le yn y 22 ar gyfer Sadwrn nesaf.

Dechreuodd Otago ar dan gyda Evans yn trosi cic gosb gynnar cyn taro'r postyn ag ail gic wedi Martyn Williams cael ei gosbi am gamsefyll.

Ond llwyddodd Evans i ddyblu'r fantais wedi Jones daclo'r maswr yn uchel.

News imageOnd dechreuodd Y Llewod ganfod eu traed gyda Geordan Murphy, Denis Hickie a Williams yn cael cyfle i redeg at Otago.

Trosodd Hodgson ddwy gic gosb i ddod â'r Llewod yn gyfartal ond bu rhaid talu'n ddrud am daclo gwan wrth i Otago groesi chwe munud cyn yr egwyl yn dilyn cic sâl gan Shane Williams.

Carlamodd y canolwr, Neil Brew, trwy dacl Hickie gan fwydo Lee wrth i Hodgson geisio'i daclo a throsodd Evans i roi Otago 13-6 ar y blaen.

Ond llwyddodd y Llewod i ddod yn gyfartal diolch i chwarae cyfrwys gan Hodgson.

Ffugiodd y maswr ei fod am gicio cic gosb i'r gornel chwith cyn ei gicio i'r gornel dde lle casglodd Greenwood y bêl i sgorio o dan y pyst.

Trosodd Hodgson y cais ond wedi'r egwyl aeth Otago ar y blaen unwaith eto â chic gosb arall gan Evans.

Ond wedi 52 munud tarodd y Llewod yn ôl wrth i Shane Williams gasglu'r bêl yn safle'r maswr a bwydo ei gyd-Gymro, Jones, i garlamu drosodd, gyda Hodgson yn trosi i'w rhoi 20-16 ar y blaen.

Gwrthododd Otago ag ildio gyda cic gosb arall gan Evans yn dod â'r tîm cartref o fewn pwynt i'r Llewod.

Ond seliwyd y fuddugoliaeth wrth i Jones gymryd cic gosb sydyn ac wedi'r bêl symud yn sydyn trwy'r olwyr, croesodd Williams am gais wedi ochrgamu'r amddiffynnwr olaf yn hyfryd.


Otago: Horton; Pedersen, Brew, Mapusua, Saunders; Evans, Lee; Dunlea, MacDonald, Hoeft; Donnelly, Levi; Webb, Blackie, Newby (capt).
Eilyddion: Vercoe, Aldworth, McClintock, Soakai, Smylie, Bambry, Shoemark.

Y Llewod: Murphy; Hickie, Greenwood, D'Arcy, Williams; Hodgson, Cusiter; Stevens, Bulloch (capt), Rowntree; O'Callaghan, Shaw; Jones, Williams, Easterby.
Eilyddion: Thompson, Sheridan, Grewcock, Owen, Dawson, Smith, O'Gara.





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy