Wellington 6-23 Llewod

15 Mehefin 2005
Wedi colli yn erbyn Y Maori, roedd y Llewod ym muddugol ym mhedwerydd gêm eu taith gan drechu Wellington. Sgoriodd y ddau Gymro, Gethin Jenkins a Gareth Thomas, gais yr un yn y fuddugoliaeth mewn perfformiad calonogol, deg diwrnod cyn y prawf cyntaf. Yr ymwelwyr gafodd y gorau o'r chwarae yn yr hanner cyntaf, ac roeddynt ar y blaen o 13-6 ar yr egwyl gyda Jonny Wilkinson yn llwyddiannus gyda dwy gic gosb a cais Jenkins. Ychwanegodd Wilkinson gic gosb arall yn fuan yn yr ail hanner cyn iddo symud i safle'r canolwr, a Stepehen Jones yn dod ymlaen fel maswr. Seliodd Thomas y fuddugoliaeth tua'r diwedd gyda chais, a Wilkinson yn trosi.
Cafwyd perfformiadau da gan Dwayne Peel a Jenkins, sydd fwy neu lai wedi sicrhau eu lle yn y tîm prawf i wynebu'r Crysau Duon ar 25 Mehefin yn Christchurch.
Wellington: Shannon Paku; Lome Fa'atau, Ma'a Nonu, Tane Tu'ipulotu, Roy Kinikinilau, Jimmy Gopperth, Piri Weepu; Joe McDonnell (captain), Mahonri Schwalger, Tim Fairbrother, Luke Andrews, Ross Filipo, Kristian Ormsby, Ben Herring, Thomas Waldrom.
Eilyddion: Luke Mahoney, John Schwalger, Kane Thompson, Justin Purdie, Riki Flutey, Tamati Ellison, Cory Jane.
Llewod: J Lewsey (Lloegr); J Robinson (Lloegr), B O'Driscoll (Iwerddon, capten), G Henson (Cymru), G Thomas (Cymru); J Wilkinson (Lloegr), D Peel (Cymru); G Jenkins (Cymru), S Byrne (Iwerddon), J White (Lloegr); D Grewcock (Lloegr), B Kay (Lloegr); S Easterby (Iwerddon), N Back (Lloegr), M Corry (Lloegr).
Eilyddion: G Bulloch (Yr Alban), M Stevens (Lloegr), P O'Connell (Iwerddon), R Hill (Lloegr), C Cusiter (Yr Alban), S Jones (Cymru), S Horgan (Iwerddon).