Y Maori 19-13 Llewod

11 Mehefin 2005
Dioddefodd y Llewod eu colled cyntaf ar eu taith i Seland Newydd wrth i'r Maori sicrhau eu buddugoliaeth gyntaf erioed dros y Llewod. Rheolwyd y gêm gan y Maori o'r chwiban cyntaf a roedd yr ymwelwyr yn ffodus i fynd i fewn ar yr egwyl yn gyfartal 6-6 wedi dwy gic gosb yr un gan David Hill a Stephen Jones. Aeth y Maori, oedd wedi colli eu saith gêm blaenorol yn erbyn y Llewod ar y blaen â chais gan Leon MacDonald ac ychwanegodd Luke McAlister drosiad a dwy gic gosb. Wedi amddiffyn am gyfnodau hir, llwyddodd Brian O'Driscoll i groesi am gais yn y munudau olaf i'r Llewod, ond roedd yn rhy ychydig yn rhy hwyr. Roedd Y Maoris wedi dewis eu tîm cryfaf erioed gan gael yr hawl i alw ar pob un o'r chwaraewyr oedd yn gymwys.Wrth ymateb, penderfynodd Sir Clive Woodward ddewis y rheng flaen trymaf yn hanes y Llewod yn 54 stôn a 10 pwys.
Ond nid oedd y Llewod, fydd yn wynebu Wellington ddydd Mercher, yn gallu ymdopi â ffyrnigrwydd Y Maori wrth gystadlu am y bêl rhydd.
Er fod y Llewod wedi trechu'r Bay of Plenty a Taranaki, mae gan Woodward â'i dîm rheoli nifer o benderfyniadau anodd i'w gwneud cyn y Prawf cyntaf â'r Crysau Duon ar 25 Mehefin.
Cafwyd dechrau digon nerfus i'r gêm a methodd maswr Y Maori, David Hill, gic gosb wedi 10 munud yn dilyn trosedd gan blaenasgellwr Y Llewod, Martyn Willams.
Munudau'n ddiweddarach llwyddodd Stephen Jones i roi'r ymwelwyr ar y blaen â chic gosb yn dilyn rhediad celfydd Matt Dawson.
Tarodd Y Maori yn ôl yn syth â chic gosb gan Hill wedi'r prop, Julian White, gael ei gosbi am drosedd yn y sgrym.
Bu bron i'r dim i'r tîm cartref gipio cais â sumudiad hyfryd i lawr yr asgell chwith ond cafwyd tacl wych gan Jones ar y llinell gais i atal Y Maori.
Roedd y Llewod o dan bwysau unwaith eto wedi Shane Williams ollwng y bêl yng nghanol cae ond, yn ffodus i'r Llewod, llwyddodd y Maori i ollwng y bêl eu hunain wrth ymosod i lawr yr asgell dde.
Ond wedi Martyn Williams cael ei gosbi am slofi'r bêl yn fwriadol, trosodd Hill am driphwynt hawdd.
Methodd Jones gyfle i drosi cic gosb ac yna, wedi taro yn erbyn un o flaenwyr y Maori, dioddefodd anaf i'w wyneb a bu rhaid iddo adael y maes i dderbyn triniaeth.
Gyda'r egwyl yn agosau llwyddodd Jones i ddod yn ôl i'r maes a throsi cic gosb, ond cafwyd ergyd i obeithion Y Llewod wedi Sheridan gael ei yrru i'r gell callio am daflu dwrn at McAlister.
Daeth y maswr, Carlos Spencer, i'r maes yn yr ail hanner a roedd ei chwarae ysbrydoledig yn gaffaeliad i'r Maori.
Roedd yn allweddol wrth i'r tîm cartref fygwth llinell y Llewod am gyfnod hir gan ddewis peidio â chicio dwy cic gosb, ond pan gafwyd trydydd cic gosb, trosodd McAlister i roi'r Maori ar y blaen.
Roedd yn hwb i'r Maori ac o fewn dim cafwyd cais agoriadol y gêm wrth i Spencer greu'r lle i MacDonald groesi.
Trosodd McAlister ac ychwanegodd gic gosb i agor bwlch o 13 pwynt dros Y Llewod.
Gyda'r gêm yn cyrraedd ei therfyn cafwyd mwy o fygythiad gan Y Llewod a chafodd O'Driscoll gais wedi gwaith da gan y blaenwyr.
Trosodd Jones ond roedd yn rhy hwyr i'r Llewod allu fachu buddugoliaeh a chafwyd dathliadau anhygoel gan Y Maori ar y chwiban olaf.
Y Maori: L MacDonald (Canterbury); R Gear (Nelson Bays), R Tipoki (North Harbour), L McAlister (North Harbour), C Ralph (Canterbury); D Hill (Waikato), P Weepu (Wellington); D Manu (Waikato), C Flynn (Canterbury), C Hayman (Otago), R Filipo (Wellington), S Hohneck (Waikato), J Gibbes (Waikato, capt), M Holah (Waikato), A MacDonald (Auckland).
Eilyddion: S Linklater (Waikato), G Feek (Canterbury), D Braid (Auckland), W Ormond (Bay of Plenty), C McGrath (North Harbour), C Spencer (Auckland), N Brew (Otago).
Y Llewod: J Lewsey (Llewod); T Shanklin (Cymru), B O'Driscoll (Iwerddon, capt), G D'Arcy (Iwerddon), S Williams (Cymru); S Jones (Cymru), M Dawson (Lloegr); A Sheridan (Lloegr), S Thompson (Lloegr), J White (Lloegr), S Shaw (Lloegr), P O'Connell (Iwerddon), R Hill (Lloegr), M Williams (Cymru), M Owen (Cymru).
Eilyddion: S Byrne (Iwerddon), G Jenkins (Cymru), B Kay (Lloegr), S Easterby (Iwerddon), D Peel (Cymru), R O'Gara (Iwerddon), S Horgan (Iwerddon).
Dyfarnwr: Steve Walsh (Seland Newydd).