bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Bay of Plenty 20-34 Y Llewod

04 Mehefin 2005

Cafwyd buddugoliaeth i'r Llewod yn y gêm agoriadol o'u taith i Seland Newydd wrth iddynt drechu'r Bay of Plenty 34-20, ond roedd newyddion drwg wrth i Lawrence Dallaglio ddioddef anaf.

Cafwyd her gan y tîm cartref wrth iddynt fynd i fewn ar yr egwyl yn gyfartal 17-17.

Ond roedd chwarae ymosodol y Llewod yn galonogol wrth iddynt groesi am chwe chais, gyda asgellwr Lloegr, Josh Lewsey, yn cipio dwy.

Bu rhaid i Dallaglio ymweld â'r ysbyty wedi iddo gael ei gludo o'r maes ar ôl 20 munud wedi troi ei ffer.

>Taith Dallaglio ar ben

Cafwyd dechrau gwefreiddiol i'r gêm wrth i'r Llewod fynd 17-0 ar y blaen yn yr 11 munud agoriadol.

Y maswr, Ronan O'Gara, oedd yn allweddol wrth gyfarwyddo'r olwyr yn gelfydd.

Creodd gais i Lewsey wedi dau funud wrth arwain amddiffyn y Bay ar gyfeilion cyn bwydo asgellwr Lloegr.

Ychwanegodd Lewsey ail gais wrth dderbyn pas hir Gavin Henson a chroesodd Mark Cueto am drydydd cais â'i gyffyrddiad cyntaf wrth iddo gasglu cic athrylithgar O'Gara ar yr asgell dde.

Llwyddodd y tîm cartref i ddod yn ôl i'r gêm â chais gan y blaenwr rheng-ôl, Colin Bourke.

O'Gara oedd ar fai y tro yma wrth iddo fethu taclo Mili Latu yn y symudiad arweiniodd at y cais.

Ac aeth pethau'n waeth i'r Llewod wrth i Dallaglio gael ei gludo o'r maes wedi iddo droi ei ffer mewn tacl.

Trosodd maswr y Bay, Murray Williams, ddisgleiriodd trwy gydol y gêm, gic cosb cyn croesi'n hyfryd am gais i ddod â'r timau'n gyfartal 17-17 ar yr egwyl.

Llwyddodd y Llewod i reoli'r ail hanner wrth i O'Gara ddangos ei ddoniau unwaith eto a chreodd gais i'r Cymro, Tom Shanklin, wedi 52 munud.

A chafwyd symudiad athrylithgar gan y mewnwr, Dwayne Peel, i sicrhau'r canlyniad.


Bay of Plenty: Cashmore; Bolavucu, Bunting, McQuoid, Tahana; Williams, Senio; Davison, Lutui, Castle; Sorenson, Upton; Ormond (capt), Latu, Bourke.
Eilyddion: Pareanga, Filise, Tupai, Smith, Hubbard, Moon, Stewart

Y Llewod: Lewsey; Cueto, O'Driscoll (capt), Henson, Shanklin; O'Gara, Peel; Jenkins, Bulloch, Stevens; O'Connell, Kay; Hill, Williams, Dallaglio.
Eilyddion:Thompson, Sheridan, O'Callaghan, Corry, Dawson, Hodgson, D'Arcy.





puff_llewod-200.jpg


Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy