Gêm gyfartal siomedig i'r Llewod

23 Mai 2005
Llwyddodd Jonny Wilkinson i drosi cic gosb hwyr i sicrhau gêm gyfartal 25-25 i dîm siomedig y Llewod yn erbyn Yr Ariannin yng Nghaerdydd. Roedd disgwyl i'r Llewod chwalu'r Pumas, oedd â nifer o'u sêr ar goll, ond diolch i gais Jose Nunez Piossek a chicio gwych Federico Todeschini, bu bron i'r dim i'r Archentwyr gipio'r fuddugoliaeth. Llwyddodd y Sais, Ollie Smith, i groesi am gais i'r Llewod i sicrhau eu bod o fewn triphwynt i'r Pumas ar yr egwyl. Ond bu rhaid i'r Llewod di-drefn ddisgwyl hyd at gic olaf y gêm er mwyn osgoi colli. Roedd y Llewod yn ei chael yn anodd i chwarae fel tîm wrth i'r XV chwarae gyda'i gilydd am y tro cyntaf.A chawsant eu cosbi'n fua yn y gêm wrth i Piossek garlamu i lawr yr asgell dde i groesi am gais wedi pedwar munud.
Roedd 26 o brif chwaraewyr yr Ariannin ar goll, ond o fewn dim roeddent 13-0 ar y blaen diolch i droed Todeschini.
A llwyddodd yr ymwelwyr i chwalu'r Llewod yn y sgrym yn ogystal ac ennill digon o bêl yn y llinellau.
Yn wir, bu'n rhaid disgwyl 17 munud cyn i'r Llewod sgorio wrth i Wilkinson dorri trwy'r amddiffyn cyn bwydo Smith i garlamu o dan y pyst.
A roedd y Llewod yn ffodus i gyrraedd yr egwyl 16-19 i lawr diolch i dri chic gosb gan Wilkinson.
Cafwyd llu o eilyddion y ystod yr ail hanner wrth i Sir Clive Woodward geisio newid y patrwm ond roedd y camgymeriadau yn parhau.
Wrth i Gordon D'Arcy golli'r bêl yn yr eiliadau olaf, ymddengys fod y Pumas am sicrhau buddugoliaeth hanesyddol.
Ond camodd Wilkinson ymlaen i achub y Llewod â chic gosb anodd o'r ystlys ond bydd gan Woodward ddigon i'w ystyried ar y daith i Seland Newydd ddydd Mercher.
Llewod: G Murphy; D Hickie, O Smith, G D'Arcy, S Williams; J Wilkinson, G Cooper; G Rowntree, S Byrne, J Hayes; D O'Callaghan, D Grewcock; M Corry, L Moody, M Owen (capt).
Eilyddion: S Thompson, J White, B Kay, L Dallaglio, C Cusiter, R O'Gara, S Horgan.
Yr Ariannin: B Stortoni; J Nunez Piossek, L Arbizu, F Contepomi (capt), F Leonelli; F Todeschini, N Fernandez Miranda; F Mendez, M Ledesma, M Reggiardo, P Bouza, M Sambucetti, F Genoud, M Schusterman, J-M Leguizamon.Eilyddion: E Guinazu, L de Chazal, M Carizza, S Sanz, F Bosch, L Borges, L Lopez Fleming
Dyfarnwr: S Dickinson (Awstralia)