Leyton Orient 1-1 Wrecsam

17 Medi 2005
Sgoriodd capten Leyton Orient Gary Alexander gôl hwyr i sicrhau pwynt i'w dîm. Mae'r canlyniad yn golygu fod Wrecsam yn parhau heb ennill gem oddi cartref y tymor hwn. Capten yr ymwelwyr, Darren Ferguson, oedd wedi rhoi ei dîm ar y blaen wedi 53 munud gydag ergyd o ugain llath. Er yr holl feddiant, ni fu Orient yn bygwth gôl Wrecsam rhyw lawer nes i Alexander sgorio gyda pheniad yn dilyn croesiad Matt Lockwood.
Leyton Orient: Garner, Miller, Zakuani, Mackie, Lockwood, Easton, Simpson, McMahon, Carlisle (Tudor 61), Alexander, Ibehre (Echanomi 74).
Eilyddion: Barnard, Keith, Morris.
Wrecsam:Michael Jones, Bennett, Bayliss, Lawrence, Linwood, Danny Williams (Warhurst 85), Ferguson, Smith, Mark Jones (McEvilly 84), Foy (Mackin 84), Walters.
Eilyddion: Spender, Mike Williams.
Dyfarnwr: B Desmond (Sir Gaerloyw)