Protest cefnogwyr

16 Medi 2005
Tydi darpar brynwr Wrecsam, Andy Smith, ddim yn deall pam fod y cefnogwyr yn erbyn ei gynllun i gymryd drosodd clwb y Cae Ras. Ddydd Sadwrn bydd hyd at 150 o gefnogwyr yn cynnal protest yn erbyn Smith yn Woking, ei dref lleol. Byddant yn galw arno i ddod a'i ddiddordeb yn y clwb i ben, a hwythau yn ofni y gallai werthu'r Cae Ras pe byddai'n dod yn berchennnog. "Yr wyf wedi synnu gyda'u hagwedd. Rydym wedi eu sicrhau nad oes unrhyw fwriad i ddymchwel y stadiwm neu i symud y clwb," meddai Smith. Mae'r cefnogwyr ynghyd â'r gweinyddwyr eisiau gweld y perchennog dadleuol Alex Hamilton yn gwerthu'r clwb i gonsortiwm sydd yn cael ei arwain gan y gwr busnes lleol, Neville Dickens.
Drwy gynnal protest yn Woking, dywed trefnydd yr orymdaith Barry Jones eu fod yn gobeithio gyrru neges i Smith.
"Rydym eisiau i Mr Smith wybod ein bod yn gwrthwynebu ei ddiddordeb yn y clwb," meddai.
"Fe ddylai sefyll i'r neilltu gan adael i gonsortiwm Dickens i brynu'r clwb a sicrhau dyfodol Clwb Pêl Droed Wrecsam a lleoliad chwaraeon ar gyfer Cymru gyfan."