Colled wedi 'brifo' Smith
 14 Medi 2005 Roedd rheolwr Wrecsam, Denis Smith, yn cyfaddef nad oedd ei dîm yn haeddu dim ar ôl colli yn Lincoln. "Mae'n brifo," meddai Smith. "Tydw i ddim yn hoffi colli, mi wnaeth y tîm gorau ennill a doedda ni ddim yn edrych fel ennill. "Gwnaetho nhw yn dda iawn a doedda ni ddim yn y gêm, ac mae'n perfformiadau oddi cartref yn rhywbeth y bydd yn rhai i ni edrych yn fanwl ar. "Unwaith wnaetho nhw sgorio'r gôl doedd hi ddim yn edrych y bydde ni yn dod yn ôl," ychwanegodd.

|