Groeg yn ffarwelio

29 Awst 2004
Daeth Gemau Olympaidd 2004 i ben yn swyddogol yn Athen â seremoni cloi syfrdanol nos Sul. Cafwyd cerddoriaeth a dawnsio Groegaidd ar ddechrau'r noson cyn i'r fflam Olympaidd cael ei ddiffodd. Cafwyd arddongasfa tân gwyllt wrth i'r athletwyr ddod i fewn i'r Stadiwm Olympaidd, gyda Kelly Holmes yn cario baner Prydain. Mae'r fflam Olympaidd wedi ei basio ymlaen i China wrth i Beijing baratoi i gynnal y gemau yn 2008. Bydd eu hathletwyr yn edrych ymlaen yn arw at berfformio ar eu tomen eu hunain wedi casglu eu nifer fwyaf o fedalau erioed yn Athen.Roeddent yn ail ar dabl y medalau tu ôl i America, gyda Prydain yn 10ed.
Er yr holl bryderon dros adeiladu'r lleoliadau a thros diogelwch, mae'r Gemau yn Athen wedi eu ystyried yn lwyddiant ysgubol.
Yn ei anerchiad yn ystod y seremoni cloi, dywedodd llywydd y Pwyllgor Olympaidd Rhyngwladol, Jacques Rogge, wrth y ddinas: "Rydych wedi ennill.
"Roedd rhain yn Gemau byth gofiadwy."
A dywedodd pennaeth Pwyllgor Trefnu Athen, Gianna Angelopoulos: "Daeth y Gemau Olympaidd yn ôl adref a rydym wedi dangos i'r byd y pethau gwych gall Groegwyr wneud."