Protest yn difetha'r marathon
29 Awst 2004
Llwyddodd Stefano Baldini o'r Eidal i ennill y fedal aur yn y marathon i'r dynion ond cafodd ei fuddugoliaeth ei gysgodi wedi protestiwr ymosod ar un o'r athletwyr. Y gŵr o Frasil, Vanderlei de Lima, oedd ar y blaen yn y ras gyda mantais gyfforddus cyn i'r protestiwr ymddangos pedwar milltir o'r diwedd. Yn fuan wedyn, llwyddodd Baldini i fynd heibio de Lima ac ennill mewn amser o ddwy awr 10:54 eil. Yr Americanwr, Mebrahtom Keflezighi, gafodd yr arian gyda de Lima yn casglu'r efydd. 
Roedd siom i Jon Brown o Brydain wrth iddo orffen yn bedwerydd, yr un safle â phedair blynedd yn ôl yn Sydney.
Cafodd y protestiwr, oedd yn gwisgo kilt coch a beret gwyrdd ac yn dal baner â'r geiriau "Israel i gwblhau'r proffwydoliaeth medd y beibl, mae'r ail ddyfodiad yn nesau," ei arestio'n syth.
Ymddengys mai Cornelius "Neil" Horan yw'r protestiwr, cyn offeiriad, lwyddodd i amharu ar Grand Prix Prydain. Cafodd ei ddedfrydu i ddau fis o garchar wedi ei brotest yn Silverstone.
Dywed llefarydd ar ran yr heddlu: "Mae'r dyn yn dweud ei fod yn Wyddel, mae o wedi meddwi. Roedd wedi bod mewn taverna yn gynharach. Mae'r heddlu yn mynd trwy ei stwff."
Roedd y ras yn un araf yn y gwres cyn i Hendrick Ramaala dorri'n rhydd wedi 10-milltir.
Ond roedd yn rhy gynnar i'r gŵr o Dde Affrica a disgynodd yn ôl wedi'r gweddil ei ddal ac yna aeth de Lima i ffwrdd ar ben ei hun wedi 13 milltir.
Roedd yn gyfforddus ar y blaen hyd at 22-milltir pan gafodd ei daflu i fewn i'r ffens gan y protestiwr.
Ond roedd wastad yn ymddangos fel bod Baldini am ei ddal ond roedd y digwyddiad yn help mawr i'r Eidalwr.
Unwaith roedd ar y blaen nid oedd Baldini yn debygol o gael ei ddal er holl ymdrechion Keflezighi.
Llwyddodd de Lima i ddal ymlaen am yr efydd i foddhad y dorf enfawr yn Stadiwm Panathinaiko oedd wedi gwylio'r digwyddiad ar sgrîn fideo.
Wedi'r digwyddiad, dywedodd de Lima: "Roedd yn hurt ar y cwrs, roedd yn ddrwg. I mi, roedd yn ddrwg iawn, iawn."