Anrhydedd i de Lima

29 Awst 2004
Bydd Vanderlei de Lima o Frasil yn derbyn medal sydd wedi ei enwi ar ôl y gŵr sefydlodd y Gemau modern wedi iddo ddangos "chwarae teg a gwerthoedd y Gemau Olympaidd", meddai'r IOC ddydd Sul. Gwthiwyd de Lima oddi ar y ffordd gan gyn offeiriad Gwyddelig pan oedd ar y blaen yn y marathon Olympiadd ar ddiwrnod olaf y Gemau. Gorffenodd y gŵr o Frasil yn drydydd i gasglu'r efydd. Mae Medal Pierre de Coubertin yn cael ei roi er mwyn coffau gweithredodd o chwarae teg yn y Gemau. >Protestiwr yn sbwylio'r marathonRhoddwyd yr anrhydedd am y tro cyntaf yng Ngemau Olympaidd y Gaeaf yn Innsbruck ym 1964 i yrrwr bobsled yr Eidal, Eugenio Monti.
Roedd tîm Prydain gyda Tony Nash wrth y llyw wedi cwblhau eu rhediad cyntaf welodd hwy yn yr ail safle tu ôl i had just completed it Monti.
Ond collwyd bollt oddi ar echel sled Prydain a byddai hynny wedi eu rhoi allan o'r ras.
Ond, wedi clywed am anghydfod y Prydeinwyr, tynodd Monti bollt o'i echel ôl a'i roi i Brydain, aeth ymlaen i ennill y fedal aur.