Arian i Khan
 29 Awst 2004 Llwyddodd y gŵr o Cuba, Mario Kindelan, i amddiffyn ei goron Olympaidd wrth drechu Amir Khan o Brydain 30-22 yn rownd derfynol y pwysau ysgafn. Llwyddodd Khan, oedd yn ceisio bod y bocsiwr ieuengaf ers Floyd Patterson ym 1952 i ennill aur, i ennill y rownd gyntaf 4-3. Ond gan ddefnyddio ei brofiad llwyddodd Kindelan, Pencampwr y Byd ar dair achlysur, i ddefnyddio ei brofiad enfawr ac agor bwlch rhwng y ddau focsiwr ag ail rownd wych. Ac er i Khan orffen yr ornest yn gryf, roedd y gŵr o Cuba wedi gwneud digon i sicrhau ei fod yn ymddeol o'r gamp â'r fedal aur. "Ef yw'r bocsiwr gorau rwyf wedi weld mewn amser maith," meddai Khan am ei wrthwynebydd"Mae'n bechod na lwyddais i'w drechu, nes i drio fy ngorau a roeddwn yn credu i mi wneud yn dda."

|