bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Davies heb ddygymod

David Davies (chwith) â Grant Hackett

24 Awst 2004

Cyfaddefodd y Cymro, David Davies, nad oedd wedi dygymod â'r ffaith ei fod wedi ennill medal Olympaidd.

Llwyddodd y nofiwr ifanc o'r Barri i ennill y fedal efydd yn y 1500m dull rhydd nos Sadwrn.

"Nid yw'n teimlo fel fy mod wedi ennill medal Olympaidd eto," meddai.

"Ond mae'n wych. Dyma yn union beth yr oeddwn eisiau sef ennill medal Olympaidd."

Yn ogystal â'r fedal, roedd Davies yn falch iawn o weld Dreigiau Coch Cymru o gwmpas y pwll nofio nos Sadwrn.

"Rwy'n dweud wrth bawb mai Cymro ydw i," meddai. "A roedd yn braf iawn i weld ambell i Ddraig Goch yn yr eisteddle yn ystod y ras a phan oeddwn yn casglu'r fedal."

Un person oedd yn credu fod Davies yn siwr o fynd ymlaen i bethau gwell oedd ei arwr ac enillydd y fedal aur, Grant Hackett.

Awgrymodd y cawr o Awstralia fod y Cymro yn siwr o ennill medal aur yn y dyfodol.

"Mae'n wych i feddwl bod rhywun fel Grant yn meddwl hynny, ond mae o'n dal i nofio ar hyn o bryd ac o'r herwydd fo fydd y ffefryn," chwarddodd Davies.

"Ni fyddaf yn newid gormod ar fy mhatrwm ymarfer, rwyf yn mwynhau bywyd yng Nghaerdydd ond mae'r ffordd i Beijing (yn 2008) yn dechrau dydd Mercher.

"Byddaf yn hedfan yn ôl i rasio ym Manceinion cyn dod yn ôl i Athen i fwynhau'r seremoni cloi."






Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy