bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Y Cymry a'r Lludw

20 Gorffennaf 2005

Wedi i Simon Jones a Geraint Jones gael eu dewis ar gyfer Cyfres y Lludw 2005, mae BBC Cymru'r Byd yn cymryd cipolwg ar y Cymry sydd wedi herio Awstralia yn un o'r gornesti mwyaf enwog yn y byd chwaraeon.

Allan Watkins

Roedd Watkins yn aelod allweddol o dîm Morgannwg gipiodd Pencampwriaeth y Siroedd am y tro cyntaf ym 1948 ac, yn yr un flwyddyn, ef oedd y Cymro cyntaf i ymddangos yng Nghyfres y Lludw wedi iddo gael ei ddewis ar gyfer y pumed Prawf ar yr Oval.

Cafodd Brawf i'w anghofio wrth iddo fethu â sgorio yn y batiad cyntaf a dim ond dau rediad gafodd yn ei ail fatiad wrth i Awstralia ennill o fatiad a 149 rhediad.

Enillodd 15 cap dros Loegr gan sgorio dau gant: 111 yn erbyn De Affrica yn Johannesburg ym 1949 a 137 heb fod allan yn erbyn India yn Delhi ym 1952.

Gilbert Parkhouse

Wedi chwarae dros Forgannwg yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gwnaeth Parkhouse ei ymddangosiad cyntaf swyddogol i'r sir Gymreig ym 1948. Erbyn 1950 roedd yn agor y batio i'w sir a chafodd ei ddewis i dîm Lloegr i wynebu India'r Gorllewin yn yr un flwyddyn gan sgorio 69 yn Nottingham.

Cafodd ei ddewis i deithio i Awsralia ym 1950-51 ond dioddefodd â'i iechyd a chafodd gyfres siomedig wrth i Awstralia gipio'r Lludw.

Jeff Jones

Gwnaeth Jones ei ymddangosiad cyntaf i Forgannwg ym 1960 a roedd ei fowlio grymus wedi denu sylw dewiswyr Lloegr ac enillodd y cyntaf o'i 15 cap yn Bombay ym 1963.

Ym 1965 cafodd ei ffigyrau bowlio gorau o 13-9-11-8 yng Nghaerlyr, a roedd yn aelod allweddol o dîm Lloegr gafodd Gyfres y Lludw cyfartal yn Awstralia ym 1965-66.

Roedd Jones yn batio yn rhif 11 a sicrhaodd cyfartaledd batio o 3.97 diolch yn bennaf iddo beidio bod allan yn y rhan fwyaf o'i fatiadau.

Matthew Maynard

Er i Maynard gael ei eni y Oldham, Sir Gaerhirfryn, cafodd ei fagu yn Sir Fôn gan chwarae dros Ysgolion Cymru cyn ymuno â Morgannwg ym 1985.

Ef oedd y chwaraewr ieuengaf eroed i gyrraedd 1000 o rediadau i'r sir Gymreig a chafodd ei ddewis i chwarae dros Loegr am y tro cyntaf ym 1988 yn erbyn India'r Gorllewin ar yr Oval.

Maynard sydd â'r record am y nifer fwyaf o ganoedd i Forgannwg ac wedi iddo sgorio cant yn erbyn Awstralia yng Nghastell-nedd i Forgannwg ym 1993 cafodd ei alw i dîm Prawf Lloegr ar gyfer yr pumed a chweched Profion Lludw.

Steve Watkin

Roedd Watkin yn ran allweddol o dîm bowlio Morgannwg o 1986 ymlaen ac ym 1991 cafodd ei ddewis i chwarae dros Loegr yn erbyn India'r Gorllewin ar wiced werdd Headingley.

Er i Loegr ennill, dim ond dwy gap arall llwyddodd Watkin i'w henill gan gynnwys un yn y chweched Prawf yn erbyn Awstralia ym 1993.

Cafodd ffigyrau o 28-4-87-2 yn y batiad cyntaf a 25-9-65-4 yn yr ail fatiad wrth i Loegr sicrhau eu hunig buddugoliaeth o'r gyfres.

Robert Croft

Mae Robert Croft wedi bod yn droellwr penigamp i Forgannwg ers gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r sir ym .

Cafodd ei ddewis i chwarae dros Loegr yn erbyn Pacistan yn y drydedd Prawf ar yr Oval ym 1996, ac wedi teithio i Zimbabwe a Seland Newydd cafodd ei ddewis ar gyfer Cyfres y Lludw ym 1997.

Dioddefodd yn enbyd yn erbyn batiwyr Awstralia a collodd ei hyder er cafodd ei ddewis i herio De Affrica a Sri Lanka.

Chwaraeodd mewn dwy Brawf yng Nghyfres Lludw wedi 1997 wrth cael ei ddewis ar gyfer y Prawf cyntaf yn Brisbane ym 1998 a'r trydydd Prawf yn Trent Bridge yn 2001.

Cyhoeddodd ei ymddeoliad o griced rhyngwladol yn 2001 wedi iddo ennill 21 cap Prawf.

Simon Jones

Dilynodd Simon Jones ôl traed ei dad, Jeff, wrth wneud ei ymddangosiad Prawf cyntaf i Loegr yn erbyn India ar Faes Thomas Lord yn 2002 ac yn ogystal â chymryd pedair wiced, llwyddodd y bowliwr cyflym i sgorio 44 rhediad o rif 10.

Cafodd ei ddewis i deithio i Awstralia yn ystod y gaeaf ac wedi dechrau da yn y Prawf cyntaf yn Brisbane, dioddefodd anaf erchyll i'w ben-glin wrth faesu a collodd chwe mis o griced.

Ym mis Mawrth 2004 chwaraeodd yn y pedair Prawf yn y Carîbî gan sicrhau 15 wiced wrth i Loegr ennill y gyfres.

Roedd wedi ennill 14 cap dros Loegr cyn dechrau'r Gyfres Prawf yn erbyn Awstralia.







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy