Morgannwg yn ddiogel
 14 Medi 2005 Cynghrair Totesport Adran 1, Caerdydd: Morgannwg 220 (45 pelawd) yn curo Hampshire 69 (23.2 pelawd) o 151 o rediadau. Sicrhaodd Morgannwg eu lle yn Adran Gyntaf Cynghrair y Totesport y tymor nesaf gyda buddugoliaeth yn erbyn Swydd Hampshire. Bu cyfraniad David Harrison (pedair wiced) a thair wiced gan Andrew Davies i'r Dreigiau yn hollbwysig ac roedd Hampshire yn saith am bedwar ar un cyfnod, cyn cyrraedd 69 i gyd allan mewn 23.2 pelawd. Yn gynharach chwaraeodd Michael Powell ran allweddol i Forgannwg yn sgorio 52 gyda Dan Cherry yn sgorio 29 o rediadau. Bydd yn rhaid i Hampshire guro Sir Nottingham ymhen pythefnos os am unrhyw siawns o osgoi'r gwymp i'r Ail Adran. Yn erbyn Morgannwg bu'n rhaid iddynt wneud heb Shane Warne a Simon Katich, oedd wedi bod yn rhan o dîm Awstralia wynebodd Lloegr yn y prawf olaf yn yr Oval ddiwrnod ynghynt.

|