bbc.co.uk
Home
TV
Radio
Talk
Where I Live
A-Z Index
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
30ed Gorffennaf 2002
Geiriau Yn Unig
Chwaraeon BBC Cymru'r Byd

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Chwaraeon

Pêl-droed
Cymru
Uwchgynghrair Cymru
Abertawe
Caerdydd
Wrecsam
Pêl-droed eraill

Olympaidd

Criced

Rygbi
Clybiau
Rhyngwladol

Canlyniadau'r penwythnos

Chwaraeon eraill
BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb

Vaughan yn canmol ei dîm

12 Medi 2005

Dywedodd capten Lloegr, Michael Vaughan, fod perfformiadau Lloegr yn "anhygoel" wedi iddynt gipio'r Lludw â buddugoliaeth 2-1 yn y gyfres.

"Mae wedi bod yn hâf emosiynol o griced, mae'n wych i'r gamp. Nid oes modd canu clodydd y chwaraewyr yn ormodol," meddai.

"Rydym wedi cael ambell i ddarn o lwc gan ein bod wedi galw'n gywir ac wedi batio'n gyntaf ar bedwar achlysur.

"Ond rwy'n credu ein bod yn haeddu'r lwc yn dilyn ein holl waith caled."

Roedd gan Awstralia gyfle i ennill y Prawf olaf a chadw'r Lludw wedi iddynt gipio tair wiced am 67 rhediad ar y diwrnod olaf.

Ond bu rhaid iddynt dalu'n ddrud am ollwng Kevin Pietersen, aeth ymlaen i sgorio 158.

"Roeddent yn beli gwych gafodd y tair wiced cyntaf. Roeddem yn dweud wrth y bechgyn i ddal ymlaen," meddai Vaughan.

"A llwyddodd Kevin Pietersen i fynd â'r gêm o'u cyrraedd â batiad anhygoel o dan bwysau. Mae'n dalent aruthrol a rydym wrth ein boddau ei fod yn ein tîm.

"Ond mae'n rhaid talu teyrnged i Awstralia a rhan maent wedi chwarae mewn cyfres wych. Mae tîm Ricky Ponting wedi ein gorfodi i frwydro'r holl ffordd."

Roedd Vaughan hefyd llawn edmygedd o'r torfeydd am eu cefnogaeth wych yn ystod yr hâf.

"Mae'r gefnogaeth rydym wedi derbyn dros wyth wythnos wedi bod yn anhygoel a rydym yn falch iawn."

Wrth adlewyrchu ar y gamp o fod y capten cyntaf i gipio'r Lludw ers 1987, roedd Vaughan yn barod iawn i dalu teyrnged i nifer o'i ragflaenwyr yn y swydd.

"Mae nifer fawr o chwaraewyr wedi gweithio'n galed iawn ers 1987," meddai.

"Ni yw'r unarddeg ffodus sydd yn cael casglu'r Lludw ond mae gwyr fel Alec Stewart, Nasser Hussain, Mike Atherton, i gyd yn gwybod pa mor anodd yw wynebu Awstralia."

Dywedodd yr hyfforddwr, Duncan Fletcher, bod y fuddugoliaeth wedi dod yn gynt na'r disgwyl, ond fod gwell i ddod gan ei dîm ifanc.

"Mae'r bechgyn i gyd yn credu eu bod yn gallu gwella," meddai.

"Rwyf wedi bod wrthi ers pump neu chwe blynedd a rwyf wedi mwynhau pob eiliad. Mae'n braf gallu ennill y Lludw i Loegr."







Terms & Conditions | Privacy & Cookies Policy