Vaughan yn targedu Cwpan y Byd

14 Medi 2005
Ennill Cwpan y Byd yn 2007 yw nod tîm criced Lloegr yn ôl eu capten Michael Vaughan, wedi eu llwyddiant yn y gyfres Lludw. Nid yw'r tîm undydd wedi perfformio gystal â'r tîm prawf, ac meddai Vaughan mai dyma'r yw'r her nesaf. "Mae'r tîm undydd ychydig o dan lefel y tîm prawf ar hyn o bryd ond rydym yn adeiladu tuag at 2007 a Chwpan y Byd," meddai Vaughan. Ychwanegodd capten Lloegr fod ei chwaraewyr yn meddu hunan gred, er colli'r prawf cyntaf cyfres y Lludw, gan fynd yn eu blaenau i ennill o 2-1. "Bu llawer o bobl yn chwerthin pan y soniwyd y gallai Lloegr ennill cyfres y Lludw ac wedi i ni golli'r prawf cyntaf doedd pobl ddim yn meddwl fod llawer o siawns gyda ni.
"Fel tîm a chwaraewyr, yr oedd gennym yr hunan gred y gallwn drawsnewid pethau, ac rydym yn credu y gallwn wneud yn dda yng Nghwpan y Byd yn 2007 - dyna pryd fydd pobl yn ein barnu."
Trechwyd tîm undydd Lloegr gan Awstralia yng Nghyfres NatWest yn gynharach yn yr haf, yn ogystal a cholli yn rownd terfynol Tlws Pencampwyr yr ICC mis Medi'r llynedd.
Cynhelir Cwpan y Byd 2007 yn India'r Gorllewin, pan fydd Awstralia yn amddiffyn eu coron.