Adnewyddwyd eu haddunedau ar y cyntaf o fis Awst fel rhan o ddathliadau 100 mlynedd mudiad y Sgowtiaid, a nawr fe fydd 38 o bobol ifanc, ynghyd ag arweinwyr, yn aros yn nhŷ Baden Powell yng nghanol Llundain. Tra yno byddant yn ymweld â Clipper yr Hafren a'r 02 (Dôm y Mileniwm) yng nghwmni 35,000 o Sgowtiaid eraill i ddathlu can mlynedd ers sefydlu'r mudiad. Maent hefyd yn disgwyl 'mlaen at 2008, sef dathlaid 35 mlynedd ers sefydlu'r 'troop'. Mae arweinydd y grŵp Sgowt, Marion Bryant, am ddiolch i bawb am helpu ac i'r rhieni a'r arweinwyr am fod yn rhan o flwyddyn lwyddiannus.
 |