Campwaith newydd awdur lleol Ebrill 2010 Mae llyfr newydd gan y Parchedig Edwin Courtney Lewis o Rhydargaeau newydd ei gyhoeddi.
Mil a Mwy o Weddiau Trysorfa o Weddiau'r Canrifoedd yw enw campwaith o lyfr newydd gan y Parchg Edwin Courtney Lewis, Rhydargaeau, cyn weinidog Peniel a Bwlch-y-corn. Ceir ynddo weddiau o'r ganrif gyntaf tan y ganrif hon - gyda mynegai manwl yn ôl geiriau agoriadol, yn ogystal ac awduron, ffynonellau a thestunau. Mae nifer yn ymddangos yn y Gymraeg am y tro cyntaf, gan wneud y gyfrol hon yn un rhyfeddol o werthfawr. Mae'r llyfr ar werth mewn siopau llyfrau Cymraeg yn barod, ond cafodd ei chyhoeddi'n swyddogol yn festri Heol Awst, fore Sadwrn 10 Ebrill.