Trefnwyd y penwythnos hwn o fewn i neuadd Tysul. Dechreuwyd y digwyddiad naw mlynedd yn ôl gan Richard Bramley, `Farmyard Nurseries', a bellach wedi datblygu i fod yn ddigwyddiad cymunedol gyda masnachwyr lleol ac artistiaid yn arddangos eu gwaith a'u masnach. Mae pob math o ddarlithoedd wedi'u cynnal yn ystod y penwythnos hwn ar wahanol fathau o bynciau amrywiol o `Hellebores' gyda Richard Bramley i dyfu llysiau eich hunain gan Ivor Mace, tyfu mewn llecynau cysgodol gan Roddy Milne a thrafodaeth am wenynnau gan Gordon Lumby. Roedd hefyd cystadlaethau ar gyfer y plant.
 |