Sefydlwyd Lleisiau Bro Eirwyn yn wreiddiol ym mis Medi 2007 er mwyn cystadlu yng Ngŵyl Gerdd Dant Ystrad Fflur ym mis Tachwedd 2007. Ar ôl cael cryn foddhad with ddod i ymarfer yn wythnosol penderfynwyd ar ddechrau mis Ionawr 2008 ein bod yn dal i gwrdd a dysgu caneuon newydd er mwyn hybu cerddoriaeth yn yr ardal. Yn ystod Canu Carolau yn Llandysul ac o amgylch y tafarndai bu'r parti yn casglu arian tuag at yr Ymatebydd Cyntaf [First Responder] yn Llandysul. Trosglwyddwyd y swm o £300 i Steve Thomas a Gerwyn Morgan Cyd-ymatebwyr Cyntaf yn yr ymarfer cyntaf yn Nhafarn Bach, Pontsian yn 2009. Arweinydd y parti yw Bethan Evans o Barc-yr-Ynn, Llandysul. Mae aelodau'r parti yn dod o ardaloedd Drefach, Lianybydder; Alltyblaca, Cwmsychpant, Penrhiwllan, Talgarreg, Capel Dewi, Llandysul, Maeslyn, Croeslan, Saron a Llanpumsaint. Os oes rhywun a diddordeb i ymuno a Lleisiau Bro Eirwyn [Parti Merched] mae croeso cynnes i chi ddod i Dafarn Bach, Pontsian am yn ail nos lau am 8y.h
 |