"Gwawriodd Sadwrn, 17 Hydref yn sych ac yn braf, ac yr oedd hynny'n argoeli'n dda. Pan gyrhaeddais Canolfan y Gymuned yn Llanidloes tua hanner awr wedi un cefais fy siomi'r ochr orau pan welais dorf dda o bobl wedi ymgynnull. Roedd pobl ar y palmentydd wrth i'r oryrmdaith nadreddu ei ffordd ar hyd strydoedd y dref y tu ôl i Seindorf Y Drenewydd. Mae'r Ilecyn lle y mae Meini'r Orsedd yn Llanidloes yn Ilecyn hyfryd, er nad yw'n wastad iawn. Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl o gwmpas Cylch yr Orsedd, ac yr oedd y seremoni'n ardderchog. Bu'r cyngerdd gyda'r hwyr gan Gôr Y Brythoniaid yn wefreiddiol. Cafwyd unawdau gan John Eifion, John Murray a Goronwy Hughes. Y Cyfeilyddion oedd Huw Alan Roberts ac Elisabeth Ellis, a roddodd i ni ddwy unawd ar y piano hefyd. Roedd hi'n hyfryd cael cwmni yr Arglwydd a'r Fonesig Hooson fel Ilywyddion, a derbyniodd Emlyn gymeradwyaeth frwd am ei araith yn ystod yr Egwyl. Roedd cynulleidfa niferus yn bresennol, ac, yn wir, yr oedd y cyfan yn goron deilwng ar Ŵyl Gyhoeddi Iwyddiannus dros ben. Diolch i bawb."
 |