Nos Fercher, Chwefror 11 eg, cafodd y gangen bleser o'r mwyaf yng nghartref Joan ag Alun Phillips yng Ngharno yn gwylio Joan yn coginio. Roedd y gegin a'r ystafell fwyta wedi eu gosod fel bod pawb yn gallu gweld beth oedd yn digwydd a Joan o fewn cyrraedd i'w chegin. Roedd popeth wedi ei baratoi ymlaen llaw a dyna'r gyfrinach mae'n debyg - sut i wneud popeth ymddangos mor hawdd - paratoi. Darth y risetiau allan o lyfr bach "Risetiau'r Cymry - i'r Cymry" sef bwydydd rhai o enwogion Cymru megis Cawl Letys Cwmystwyth gan Phyllis Kinney neu Cyri ar Frys Maureen Rhys. Paratowyd amryw o fwydydd eraill a chawsom eu blasu i gyd gan eistedd yn gyfforddus wrth fyrddau bach yn y lolfa. Mae Merched y Wawr yn enwog am eu mwynhad o fwyd (rhai yn fwy na'i gilydd!) a gofynnwyd i Cynthia i ddiolch am y wlêdd a baratowyd ar ein cyfer gan Joan gyda help Alun mae'n siwr. > Diolch iddo fo hefyd am dynnu'r lluniau ohonom yn mwynhau noson hwyliog iawn.
 |