Fel arfer, gwahodd ffrindiau ac eraill i ymuno a ni i ddathlu gŵyl ein nawddsant fyddwn ni ond eleni dyma benderfynu cael tipyno bleser i ni ein hunain ac i ffwrdd a ni i fwyty Themes yn y coleg. Daeth tua ugain ohonom ynghyd i fwynhau'r wledd a rhaid cyfaddef mai gwledd oedd hi hefyd. Roedd y bwyd yn ardderchog gyda digon o ddewis a hwnnw'n cael ei weini'n foesgar gan y myfyrwyr. Rhaid Ilongyfarch y Coleg a'r bobl ifanc am roi noson bleserus a chanmoladwy i ni ac rwy'n siwr y byddwn yn talu ymweliad a Themes eto'n fuan.
 |