Roedd yn fraint i'r plant gael mwynhau'r profiad gwerthfawr yma. Dyma'r cerddi a gyfansoddwyd yn ystod y bore:
Castell Dolforwyn
Does dim cod post i'w roi
Yn y Tom Tom,
Sgrin lwyd fel niwl o flaen y car. Sbageti o ffyrdd bach cefn gwlad A dim arwyddion ond enwau ffermydd. Parcio a dringo'r llethr sgïo i fyny'r bryn. Coeden ar draws y llwybr, Bwldog yn cysgu ag un llygad ar agor. Sut storm oedd honno pan ddaeth y môr a llyncu tir Llywelyn, Pan syrthiodd y sêr, Pan aeth hiraeth yn yfory, Ar hynt y gwynt a'r glaw? Ar ben y bryn,
Mae darnau o hyd ar goll
O'r jig-so cerrig,
Ond mae'r gyfrinach i'w gweld
Ac mae'r ffynnon yn llawn. Haul tanbaid Mawrth y cyntaf
Uwch canol Maldwyn, calon Cymru
Ac yn Ysgol Dafydd Llwyd
Mae castell coch Cymraeg. Gan ddisgyblion Blwyddyn 5 a 6 Cennin Pedr Cymru Milwyr y gwanwyn
Yn herio'r gaeaf gyda'u cefnau'n syth.
Corn aur ein cerddoriaeth, yn llawn o hen ganeuon, 'Chydig o hwyl, 'chydig o hiraeth.
Llyw crwn yn mynd â ni ar daith i ddathlu iaith a thir,
Hen siwrne i Gymru newydd.
Haul ein dydd, seren ein nos
Yn dân yn ein calonnau ar hyd y flwyddyn. Gan ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4.
 |