BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Seren Hafren
Eluned Evans gyda'i chardiau a'i blodauAnrhydedd Eluned
Chwefror 2008
Ychydig cyn y Nadolig cafodd Mrs Eluned Evans, Dolafon, Carno dipyn o sioc pan dderbyniodd lythyr yn dweud ei bod i dderbyn yr M.B.E.

Am ei gwaith a'i gwasanaeth i godi arian at ymchwil Leukaemia a hefyd ei gwasanaeth i'r ardal fel arweinydd i Glwb Bro Maldwyn am 20 mlynedd.

Yn sicr mae swm o arian anhygoel wedi ei godi gan grŵp Leukaemia Canolbarth Cymru a hithau yn Gadeirydd ers ambell flwyddyn.

Maent wedi trefnu pob math o weithgareddau ar hyd a lled Cymru er mwyn codi'r arian a'r cyfanswm wedi cyrraedd £250,000. Nid hawdd ydyw cyrraedd targed mor uchel â hyn.

Mae'r ardal gyfan yn ei llongyfarch yn fawr. Fe ddywed Eluned fod y llwyddiant wedi dod o'r cyd-weithio da sydd wedi bod gan y grŵp i gyd a hefyd y ffaith ei bod yn gwybod fod rhai o'r bobl sy'n diodde' o'r clefyd yma yn cael gwellhad.

Wel, llongyfarchiadau mawr i Eluned a'i chydweithwyr am ei hymdrech arbennig yn helpu'r ymchwil i'r salwch a gobeithio y bydd llawer eto yn elwa o'r ymdrech.

Os ydych eisiau rhywbeth wedi ei wneud, gofynnwch i ddynes brysur. Dyna ddylai fod yn arwyddair i Eluned. Bu'n rhedeg busnes Gwely a Brecwast am flynyddoedd. Cyn hynny roedd yn gweithio fel Cynorthwydd Dosbarth yn Ysgol Cedewain. Yn ogystal â'r Gwely a Brecwast bu'n rhedeg busnes arlwyo ar gyfer angladdau. Ar hyn o bryd hi yw Llywydd Sefydliad y Merched, Carno. Mae pawb yn Seren Hafren yn dymuno'n dda iawn i chi, Eluned.
Diolch i Mrs Mai Richards am yr addroddiad


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy