Mae pum person sy'n dweud eu bod yn ddyledus i lawfeddygon calon yn Ysbyty Gogledd Staffordshire, Stoke on Trent am achub eu bywydau wedi llwyddo i gasglu £5,500 i'r ysbyty fel arwydd o ddiolch am y gofal a gawsant yno. Mae Mervyn Foulkes a Tegwyn Lewis o'r Adfa, Ann Davies o'r Drenewydd a Mike Andrew a Tony Isaac o Meifod wedi cwblhau dwy daith noddedig yn ystod mis Tachwedd i godi'r arian. Ymunodd eu teulu a'u ffrindiau a nhw ar daith chwe milltir o amgylch Neuadd Gregynog, Tregynon ac yna ar daith 11 milltir o amgylch Llyn Efyrnwy. Yn y diwedd roedd dros 67 o gerddwyr wedi cwblhau'r teithiau. Mae'r pump yn ddiolchgar iawn i bawb am eu noddi ac am y gefnogaeth a dderbyniwyd yn ystod y teithiau. Cyflwynwyd siec i Tony Berry, MBE, cadeirydd Pwyllgor Triniaeth y Galon Ysbyty North Staffs yng Ngwesty'r Tanhouse, Llangynyw yn ddiweddar. Yn y Ilun: Tony Berry yn derbyn siec o £5,500 gan Mervyn Foulkes, gyda Tony Isaac, Mike Andrew, Ann Davies a Tegwyn Lewis .
 |