BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Rhai o'r dysgwyr yn canolbwyntioDiwrnod i'r Dysgwyr ym Mhontrobert
Mai 2007
Roedd y diwrnod ym Mhontrobert yn llwyddiant ysgubol ar ddydd Sadwrn, 21 Ebrill.

Roedd y ganolfan dan ei sang i'r sesiwn arbennig roedd Nia Rhosier wedi'i threfnu i helpu dysgwyr o bob safon efo eu hynganu. Daeth pobl o Flaenau Ffestiniog ac Amwythig i gymryd rhan yn y sesiwn gyda dysgwyr lleol ardal y Plu. Mae'n amlwg bod gwir angen cyrsiau fel hyn ac rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Nia am ei drefnu. Rhaid hefyd diolch i Fran am baratoi cinio bendigedig i bawb ac wedyn te'r prynhawn gyda'i sgons enwog a jam cartref. Cofiwch bydd Diwrnod Scrablo yno ar 28 Gorffennaf. Dyma adroddiadau Hilary Woolner a Heather a Nick Rees:

"Dwedwch 'l' wedyn 'll'. Lle mae'ch tafod chi?" Roedd Nia Rhosier yn arweinydd ardderchog trwy'r wyddor Gymraeg a chymhlethdodau ynganu. Roedd mwy o ddysgwyr nag erioed yn sesiwn dydd Sadwrn 21 Ebrill yn Hen Gapel John Hughes, Pontrobert, sef 26 ohonon ni gyda chroestoriad o allu. Yn y bore, edrychon ni ar sut i gynhyrchu'r llais wrth ymarfer dweud llythrennau a seiniau unigol.

Ar ôl cinio gwych Fran o dan yr haul yn yr ardd, fe wnaeth yr ail sesiwn ymdrin â deuseiniaid a dyna ddechrau ar y drafferth. Ond roedd Nia yn help mawr ac yn amyneddgar lawn wrth i ni lurgunio ei hiaith. Am sawl wythnos i ddod, bydd dysgwyr o Flaenau Ffestiniog i'r Amwythig yn sefyll o flaen eu drychau er mwyn gwneud ymdrech i wella eu hynganu nhw.
Hillary Woolner

Dan ni'n gobeithio bod ein hynganiad yn well ar ôl y Cwrs Ynganiad yn Hen Gapel Pontrobert efo Nia Rhosier. Roedd hi'n ddiwrnod bendigedig - y tywydd, y dysgu, y bwyd a'r myfyrwyr. Roedd pawb yn gyfeillgar ac yn barod i helpu ei gilydd. Roedden ni'n dysgu dweud 'll' a 'eu' yn gywir! Cewch chi ofyn i ni ddweud 'Llanfyllin' neu 'amheus' os dach chi'n cyfarfod ni yn y stryd!
Heather a Nick Rees

Lois Martin-Short


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy