BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Plu'r Gweinydd
Carwyn a Maurice wrthi'n gwneud y giatCrefftiwr Cefn Gwlad Wrth Ei Waith
Hydref 04
Yn ystod yr haf cefais y fraint o dreulio ambell bnawn gyda'r crefftwr o fri Maurice Evans, Tynrhos a'i wraig Joan.
Teimlaf mor lwcus o gael adnabod y ddau a chael fy niddaru yna yn y tŷ a'r siediau bach di-ri am oriau.

Roedd ysbrydoliaeth yn y sgwrs yn ogystal â'r golygfeydd o bob twll a chornel o'r delweddau, gyda pethau fel y pare a phare o fenyg plygu yn hongian a'r to sinc ar ôl oes o waith yn diogelu dwylo'r crefftwr sydd wedi plygu ambell sietin - wel milltiroedd i fod yn gywir.

Y peth mwyaf i mi oedd ei gariad at rannu y profiadau fel crefftwr gyda ni ac yn wir un pnawn gwelwyd dau bâr o ddwylo yn cwrdd i wneud giât bren a holltwyd gyda'r wyallt, - un pâr o ddwylo gyda ôl blynyddoedd o brofiad a'r llall yn ddwylo ifanc brwdfrydig...a llawenydd yw gweld y traddodiad yn parhau o gatie crefftwr gwlad Sir Drefaldwyn.

Mae un o gatie Maurice wedi mynd i lawr i Sain Ffagan yr haf yma, ond mae posib gweld un yn ei chynefin wrth ymyl Capel Sardis sydd hefyd werth ymweliad, ac fel llawer o'n capeli yn cael pob gofal yn ddiffuant bob dydd Sadwrn gan bobl fel Olwen Berth a Gwyneth Groe.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy