Cafwyd diwrnod hwyliog a buddiol, a dwi'n siŵr bod Magwen wedi cael llawer o syniadau ar gyfer cyngherddau'r dyfodol. Ar Ionawr 23 buom yn cynnal cyngerdd i gymdeithas Llanegryn yn Neuadd Abergynolwyn. Gydag Aled Wyn Davies yn unawdydd a Gareth Evans, Erw'r Llan yn arwain, cawsom gyngerdd hwyliog a derbyniad cynnes iawn gan y gynulleidfa. Cafwyd y Cyfarfod Blynyddol ar 13 Chwefror gyda'r arweinydd yn rhoi adroddiad am flwyddyn lwyddiannus arall i'r Côr gyda nifer o gyngherddau da gyda'r uchafbwynt - y trip i Iwerddon. Roedd adroddiad y trysorydd hefyd yn adlewyrchu sefyllfa lewyrchus. Etholwyd y swyddogion canlynol am y flwyddyn nesaf: Cadeirydd: Geraint Jones, Is-gadeirydd: Menna Blake, Ysgrifennydd: Nia Smith, Trysoryddion: Heulwen Williams a Meleri Lewis. Nos Wener 16 Chwefror aeth criw go dda ohonom i Westy Ty'n Cornel, Talyllyn i gael ein cinio blynyddol. Os gweloch chi rai digon rhyfedd yr olwg ar hyd y dre, roedd thema i'r cinio eleni, sef gwisg o'r chwedegau (rhai'n cofio'r rheini yn well nag eraill!) Cafwyd bwyd ardderchog a noson hwyliog gyda Dei yn chwarae caneuon o'r chwedegau a dawnsio egnïol - da iawn Jen ar y Twist! Cyflwynwyd anrheg arbennig i Magwen i ddiolch iddi am ei gwaith diflino yn ystod y deg mlynedd ers sefydlu'r côr.
 |