| Uchos, gwelir llun o rai o'r aelodau a fu'n mynychu'r nosweithiau cadw'n heini yn y Ganolfan Hamdden. Cawsom grant o £750 o'r Cynulliad i wneud hyn a mae gweithgareddau wedi bod ar y Nos Iau cyntaf a'r trydydd Nos Iau bob mis. Mae'r cyfan am ddim a rydym yn cael llawer o hwyl. Dyma'r rhaglen am 2008: 17 Ionawr, 2008: 7-8 o'r gloch - Ymarfer corff yn y dŵr
7 Chwefror, 2008: 8-9 o'r gloch - Pilates
21 Chwefror, 2008: 7-8 o'r gloch - Ymarfer corff yn y dŵr
28 Chwefror, 2008: 8-9 o'r gloch - Pilates Mae croeso i aelodau newydd ymuno gyda ni. Rydym yn cyfarfod ar yr ail Nos Iau bob mis am wyth o'r gloch a rydym yn cyfarfod nesaf ar Chwefror 14 yn y garej yng Nglantwymyn ble fydd Geoff Brynrnelin yn sôn am drin a thrafod ceir a ralïo. Croesawyd aelodau newydd atom yn y parti Nadolig ac erbyn hyn mae gennym 37 aelod. Mwy o Fachynlleth
 |