BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

BBC Homepage
BBC Cymru
BBC Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

Gwegamerâu

Eich Llais

BBC Vocab
OFF / I FFWRDD
»Turn ON
Troi YMLAEN
»What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Blewyn Glas
Tudur DylanMedal Glyndŵr i Tudur Dylan
Gorffennaf 2008
Enillydd Medal Glyndŵr eleni am gyfraniad arbennig i lenyddiaeth yng Nghymru yw'r prifardd Tudur Dylan Jones.

Cyflwynir Medal Glyndŵr yn flynyddol fel rhan o weithgaredd Gŵyl Machynlleth i unigolion sydd wedi disgleirio ym maes cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol neu llenyddiaeth.

Enillydd Medal Glyndŵr eleni am gyfraniad arbennig i lenyddiaeth yng Nghymru yw'r prifardd Tudur Dylan Jones. Ganed ef yng Nghaerfyrddin ond symudodd y teulu i Fangor lle'r aeth i'r ysgol ac yna i'r Brifysgol. Enillodd Gadair Eisteddfod Bro Colwyn ym 1996 a chadair Eisteddfod genedlaethol Eryri a'r Cyffuniau yn 2005, ac yna yn 2007 fe gipiodd Goron Eisteddfod y Fflint.Mae'n aelod o dîm Talwrn y Beirdd, Y Taeogion a bu'n Fardd Plant Cymru yn 2004-05.Ef hefyd oedd golygydd y gyfrol hardd Trysorfa T Llew Jones a gyhoeddwyd yn 2004 a chyhoeddwyd ei gasgliad cyflawn cyntaf o gerddi i blant 'Rhywun yn Rhywle' yn 2005.

Cynhelir seremoni cyflwyno'r fedal yn y Tabernacl, Ddydd Gwener, Awst 22ain am 1 o'r gloch. Yn bresennol i gyflwyno rhaglen i gyfarch Dylan bydd aelodau tîm Talwrn y Beirdd Bro Ddyfi a disgwylir i Dylan ddweud gair yn ystod y cyfarfod.

Gwnaethpwyd y fedal gan y gemydd lleol Kelvin Jenkins. Arni fe welir amlinelliad o Fae Ceredigion ac aber y dyffryn y Dddyfi gyda smotyn o aur yn dynode safle Machynlleth. Mae croeso cynnes I bawb I ddod I'r cyfarfod arbennig hwn.


0
C20
Pobol y Cwm0
Learn Welsh0
BBC - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy